Datganiad gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 24/06/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Datganiad gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Mehefin 2011

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael cadarnhad na fydd cyhuddiadau troseddol yn cael eu dwyn yn erbyn y naill neu’r llall o ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol a gafodd eu hethol yn Aelodau’r Cynulliad ond a anghymhwyswyd oherwydd eu bod yn aelodau o sefydliadau a restrwyd yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymwyso) 2010.

Yn sgil y penderfyniad hwnnw, mae’r Cynulliad Cenedlaethol bellach wedi ailafael yn ei ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at enwebu ac ethol y ddau unigolyn dan sylw pan oeddent yn anghymwys.

Mae Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad, wedi cael ei benodi gan Claire Clancy, Clerc y Cynulliad, i gynnal yr ymchwiliad ac adrodd yn ôl i Rosemary Butler AC, y Llywydd, pan fo’r ymchwiliad wedi dod i ben.”