Datganiad gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 10/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Datganiad gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2014

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol mewn ymateb i ran dau o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, a ryddhawyd heddiw.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Rwy'n croesawu'r pecyn hwn o argymhellion gan y Comisiwn ar Ddatganoli, yn enwedig ynghylch y mater o gael mwy o Aelodau Cynulliad. Bydd mwy o Aelodau yn golygu mwy o gyfle i ddatblygu'r arbenigedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i gynigion Gweinidogion y Llywodraeth gael eu herio’n rymus.

"Rwy'n credu bod y pecyn hwn o argymhellion yn gosod seiliau cadarn ar gyfer datblygu datganoli yng Nghymru, i gryfhau democratiaeth ac atebolrwydd ac, yn bwysicaf oll, i'r Cynulliad wasanaethu pobl Cymru yn well.

"Bydd symud i fodel o bwerau a gedwir yn ôl yn helpu i chwalu peth o'r ansicrwydd o ran rôl a chyfrifoldebau'r Cynulliad. Bydd yn fodd inni ddeddfu'n fwy effeithiol ac yn fwy hyderus. Yn hanfodol, bydd yn rhoi inni sylfaen ddeddfwriaethol debyg i Senedd yr Alban, lle nad oes yr un Bil, hyd yn hyn, wedi cael ei ddwyn gerbron y Goruchaf Lys gan un o swyddogion cyfraith y DU i gadarnhau’r hawl i ddeddfu mewn maes penodol.

"Rwyf hefyd yn falch o weld bod y Comisiwn yn cytuno â mi y dylai fod hawl gennym i ddewis ein henw ni - enw sy'n cyfleu yn well ein statws fel corff seneddol aeddfed. Gyda phwerau deddfu llawn, a chyda'r cyfrifoldebau ariannol y byddwn yn eu defnyddio am y tro cyntaf yn y Cynulliad nesaf, mae'n bryd cydnabod bod y sefydliad democrataidd hwn yn wahanol i'r un a etholwyd gyntaf ym 1999.

"Mae'r adroddiad hwn hefyd yn gam pwysig tuag at sefydlu confensiwn cyfansoddiadol, ni waeth beth fo canlyniad y refferendwm yn yr Alban yn ddiweddarach eleni, gan fy mod yn credu bod rhaid inni edrych ar ddyfodol datganoli ac egluro cyfrifoldebau’r gwahanol sefydliadau deddfwriaethol yn y DU a'r cysylltiadau rhyngddynt.

"Yn olaf, rwy'n diolch i Paul Silk a gweddill y Comisiwn ar Ddatganoli am eu hymroddiad a'u hymdrech wrth gynhyrchu dau adroddiad rhagorol sy'n rhoi gweledigaeth ar gyfer dyfodol democrataidd Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i'w canfyddiadau."