Datganiad gan y Llywydd ar roi Erthygl 50 ar waith gan Lywodraeth y DU

Cyhoeddwyd 29/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/03/2017

​Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi rhoi Erthygl 50 ar waith yn ffurfiol i ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Meddai:

"Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau'n ffurfiol y broses a fydd yn mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd.

"Yn sgil gadael yr UE, byddwn ni yng Nghymru a'r meysydd polisi cyhoeddus y mae'r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt yn wynebu heriau cymhleth a chyfleoedd.

"Yn y refferendwm y llynedd, gadael yr UE oedd ewyllys y mwyafrif o'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn y Cynulliad.

"Mae gennym rôl hollbwysig er mwyn sicrhau bod llais pobl Cymru yn cael gwrandawiad priodol yn y trafodaethau sydd o'n blaenau.

"Mae pwyllgorau'r Cynulliad eisoes yn gwneud gwaith pwysig, o ran nodi'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a mynd i'r afael â'r cwestiynau y mae angen eu hateb.

"Fy mlaenoriaethau i yw sicrhau bod y Cynulliad yn gwneud cyfraniad llawn at gadw golwg ar y trafodaethau hyn a chraffu'n effeithiol ar Fesur y Diddymu Mawr a'r swm enfawr o ddeddfwriaeth a fydd yn dilyn.

"Rydym ar ddechrau cyfnod pan fydd newidiadau sylfaenol yn cael eu gwneud i drefniadau cyfansoddiadol y DU, lle'r gwledydd datganoledig oddi mewn iddo, a gallu'r Cynulliad i gyflawni ar ran pobl Cymru.

"Wrth i'r broses honno fynd rhagddi, rwy'n benderfynol o ddangos a sicrhau swyddogaeth y Cynulliad fel Senedd gref, effeithiol i Gymru.