Datganiad gan y Llywydd - Oedi cyn cyflwyno Bil Cymru yw’r penderfyniad iawn i Gymru

Cyhoeddwyd 29/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/02/2016

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch Bil Cymru.

Dywedodd y Fonesig Rosemary:

"Rwy'n croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nodi y bydd cyfnod o oedi cyn cyflwyno Bil Cymru.  Hwn yw'r penderfyniad cywir gan ei fod yn rhoi cyfle i'r Cynulliad a Llywodraeth y DU gytuno ar setliad cyfansoddiadol parhaol i Gymru.

'Ym mis Ionawr, pleidleisiodd y Cynulliad yn unfrydol ar argymhellion Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, i beidio â bwrw ymlaen â'r Bil nes byddai'n cael ei ddiwygio'n sylweddol.

"Rwy'n croesawu casgliadau'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn ei adroddiad ar Fil Cymru drafft.  Mae ei gasgliadau yn adlewyrchu casgliadau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a gynhyrchodd ei ystyriaeth fanwl ei hun o'r Bil drafft cyn y Nadolig.

"Mae'r ddau adroddiad yn dystiolaeth bellach o'r teimladau cryf drwy'r gymdeithas ddinesig tuag at Fil Cymru drafft, a'r angen i'w newid yn sylweddol.  Mae'n braf gweld bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwrando.

"Rwyf wedi mynegi fy mhryderon droeon ynghylch y prawf 'rheidrwydd' arfaethedig a'r rhestr o faterion a gedwir yn ôl felly rwy'n arbennig o falch bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau y bydd newidiadau yn y meysydd hyn.

"Mae'n bwysig yn awr fod y cyfnod hwn yn cael ei ddefnyddio'n adeiladol i ymgysylltu â'r Cynulliad, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i wella'r Bil, er mwyn iddo gael cefnogaeth y Cynulliad nesaf ac er mwyn cael setliad clir ac ymarferol nad yw'n lleihau'r pwerau a ddatganolwyd i'r Cynulliad eisoes."