Dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd

Cyhoeddwyd 14/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd

14 Mawrth 2011

Mae digwyddiad gyda’r nos yn cael ei gynnal yn y Senedd heddiw (14 Mawrth) i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad.

Bydd y derbyniad yn croesawu i’r Senedd nifer o gynrychiolwyr Cynhadledd Llywodraeth Leol y Gymanwlad, sy’n cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas.

Caiff y diwrnod ei ddathlu i hyrwyddo dealltwriaeth o faterion byd-eang, cyd-weithredu rhyngwladol a gwaith sefydliadau’r Gymanwlad.

Y thema eleni yw ‘Merched, Asiantau Newid’. Bydd nifer o Aelodau’r Cynulliad yn bresennol.

Dywedodd Janet Ryder AC, Cadeirydd Cangen Cymru o’r CPA:

“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gangen o’r CPA yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn sefydliad eangfrydig sy’n datblygu ei gysylltiadau â gwledydd a phobl o bob cyfandir.

“Rydym yn cydnabod bod gennym lawer i’w ddysgu oddi wrth gwledydd a diwylliannau eraill, a rwy’n gobeithio bydd yr achlysur hwn yn cynnig cyfle i gyfnewid syniadau ac arferion gweithio da.

“Mae delfrydau’r CPA a’n cangen ni yn cynnwys cydraddoldeb a hyrwyddo menywod ar bob lefel o ddemocratiaeth a gwneud penderfyniadau. Felly, rwy’n falch iawn o berthnasedd thema’r Gymanwlad eleni: ‘Merched, Asiantau Newid’.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle hwn i gwrdd ag ymwelwyr o bob un o 54 o wledydd y Gymanwlad ac rydym yn eich croesawu chi yma ynghyd â nifer o gymunedau rhyngwladol Cymru i ymuno â ni i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y ‘Senedd’ eiconig hwn – cartref democratiaeth Cymru.”