Dathlu Mis Hanes Pobl Dduon yn y Senedd
16 Hydref 2013
Ar 18 Hydref, bydd David Melding AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn croesawu rhai o Hindwiaid Cymru i'r Senedd.
Digwyddiad i nodi Mis Hanes Pobl Dduon yw hwn, ac mae'n cael ei drefnu ar y cyd â Heddlu De Cymru a Chyngor Hindwiaid Cymru.
Yn ogystal â chynnal y digwyddiad hwn, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi Diverse Cymru drwy noddi Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.
Yn ôl y Dirprwy Lywydd “Mae'r Cynulliad wedi cyfrannu at noddi dathliadau Mis Hanes Pobl Dduon ledled Cymru, sy'n cael eu trefnu eleni gan Diverse Cymru.”
“Mae'n gyfle gwych i ni estyn allan at bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
“Rydym yn defnyddio'r cyfle hwn i hyrwyddo ymgynghoriad y Cynulliad ar ei strategaeth ymgysylltu â phobl ifanc – yr ymgyrch Dy Gynulliad di - dy lais di, dy ffordd di - i ofyn i bobl ifanc o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sut y gallan nhw leisio barn am waith y Cynulliad.
“Hefyd, yr wythnos hon, rydym wedi lansio ein Cynllun Prentisiaeth 2013 ar gyfer pobl ifanc, ac rydym yn gobeithio y bydd amrywiaeth eang o ymgeiswyr yn manteisio ar y cyfleoedd hynny.
“Dyna pam y byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i roi'r gair ar led am y mentrau pwysig a chyffrous hyn.
“Rydym am annog pobl ifanc o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac i ystyried y Cynulliad yn lle yr hoffent weithio.
Mae Rhwydwaith Staff Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig y Cynulliad yn cynghori Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch sut y gall roi gwell cefnogaeth i staff o grwpiau bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig o ran datblygiad gyrfa. Mae hefyd yn cynghori'r Cynulliad ynghylch sut y gall wneud ei weithlu'n fwy amrywiol drwy ddenu mwy o ddoniau o blith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.
Mae'r ymgyrch 'Dy Gynulliad di - dy lais di, dy ffordd di' yn gofyn i bobl ifanc sut y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymgysylltu â nhw.
Ym mis Medi, lansiwyd gwefan newydd, www.dygynulliad.org, er mwyn annog pobl ifanc i ddweud wrth y Cynulliad beth sy'n eu poeni a sut yr hoffent gymryd rhan.
Mae arolwg ar-lein ar y safle, ac mae cyfle hefyd i gynnal trafodaethau grwp. Mae'r rheini'n cael eu trefnu gan staff y Cynulliad Cenedlaethol, ac maent yn gyfle i awgrymu a chyfnewid syniadau.
Yn ogystal â'r arolwg a'r grwpiau trafod, caiff pobl ifanc eu hannog i fynegi barn drwy @DyGynulliad neu drwy ddefnyddio #DyGynulliad ar twitter, rhoi neges ar dudalen Dy Gynulliad ar Facebook neu gyflwyno fideos.