Dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil asbestos
07 Rhagfyr 2012
Mae un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried y Bil, sydd yng nghyfnod cyntaf y broses ddeddfwriaethol.
Mae'r cyfnod hwn yn archwilio'r egwyddorion cyffredinol, megis a oes angen cyfraith neu a oes modd cyflawni'r amcanion drwy ddeddfwriaeth bresennol, ac a yw geiriad y Bil yn cyflawni'r nodau sydd wedi'u datgan.
Cafodd y Bil ei gynnig gan Mick Antoniw AC ac mae'r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn datgan:
"Nod y Bil yw galluogi Gweinidogion Cymru i adennill oddi wrth ddigolledwr (sef person sy’n gwneud taliadau digolledu neu sy’n eu gwneud ar ei ran, i neu ar gyfer dioddefwr clefyd sy’n ymwneud ag asbestos), gostau penodol sy’n dod i ran y GIG yng Nghymru wrth ddarparu gofal a thriniaeth ar gyfer dioddefwr y clefyd sy’n ymwneud ag asbestos."
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae costau dynol clefydau sy'n ymwneud ag asbestos yn parhau i gael eu gweld mewn cymunedau ledled Cymru.
"Wrth ystyried y Bil hwn, bydd y Pwyllgor am glywed oddi wrth bawb sydd â barn ar y ddeddfwriaeth bwysig hon."
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymgynghoriad naill ai e-bostio: swyddfaddeddfwriaeth@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 10 Ionawr 2013.