Deddf newydd sy'n effeithio ar datŵio, tyllu'r corff, fferyllfeydd, toiledau cyhoeddus ac e-sigaréts yn cael ei hystyried gan bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 30/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/11/2015

Mae deddf arfaethedig a allai effeithio ar bethau fel tatŵs a thyllu'r corff, fferyllfeydd lleol a thoiledau cyhoeddus, a thriniaeth e-sigaréts yng Nghymru, wedi cael ei hystyried gan bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Edrychodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar oblygiadau posibl Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Llywodraeth Cymru ac a fyddai'n bodloni'r amcanion y bwriedir iddo eu cyflawni.

O ran cynigion fel cynllun trwyddedu ar gyfer busnesau tatwio, tyllu'r corff, aciwbigo ac electrolysis, a gwaharddiad ar dyllau personol ar gyfer rhai o dan 16 oed, mae'r Pwyllgor yn cytuno â chynigion y Bil.

Roedd agweddau eraill ar y Bil, gan gynnwys newid y ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio i ddiwallu anghenion cymunedau lleol, a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu mynediad digonol i doiledau cyhoeddus, yn cael croeso cyffredinol.

Roedd tystiolaeth ar y cynigion i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig yn fwy cymhleth, a nid oedd y Pwyllgor wedi gallu dod i gytundeb ar y mater hwn.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Mae'r Pwyllgor, yn gyffredinol, o blaid llawer o'r cynigion sydd ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)."

"Mae darpariaethau mewn perthynas â gweithdrefnau arbennig, tyllu personol, toiledau cyhoeddus a gwasanaethau fferyllol i'w croesawu fel cyfraniad cadarnhaol at wella iechyd y cyhoedd o ran pobl Cymru.

"Roedd y dystiolaeth mewn cysylltiad â'r cyfyngiadau arfaethedig ar e-sigaréts yn gwrthdaro ac nid oedd y Pwyllgor wedi gallu dod i gytundeb.

"Rydym yn gobeithio bod ein casgliadau a'r argymhellion a wneir gennym yn ddefnyddiol i Aelodau'r Cynulliad wrth iddynt ystyried eu barn ar egwyddorion cyffredinol y Bil."

Disgwylir i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gael ei drafod gan Aelodau'r Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr 2015.