Deddfwriaeth arfaethedig newydd i wella llywodraethiant ysgolion yn cael cefnogaeth gan bwyllgor o Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 21/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Deddfwriaeth arfaethedig newydd i wella llywodraethiant ysgolion yn cael cefnogaeth gan bwyllgor o Aelodau’r Cynulliad

Mae deddfwriaeth arfaethedig newydd sydd â’r nod o annog cydweithio yn y sector addysg, gwella llywodraethiant ysgolion a gwella’r defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau wedi cael cefnogaeth i raddau helaeth gan bwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad.

Bydd y Mesur Arfaethedig ynghylch Addysg (Cymru) yn:

  • gosod dyletswydd ar ysgolion, colegau a chynghorau lleol i ystyried cydweithio; rhoi’r pwer i gynghorau lleol gynnig bod ysgolion yn eu hardaloedd yn ffederaleiddio o dan un corff llywodraethu;

  • rhoi’r pwer i Weinidogion orfodi ysgolion bach i ffederaleiddio;

  • gosod dyletswyddau ar gynghorau lleol i ddarparu hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion; a

  • rhwystro ysgolion yn y dyfodol rhag newid categori i fod yn ysgolion sefydledig a rhwystro ysgolion sefydledig newydd rhag cael eu sefydlu.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cefnogi y Mesur arfaethedig i raddau helaeth mewn egwyddor ar ôl iddo graffu arno.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor wedi galw ar y Gweinidog i ehangu’r amcan i gydweithio sydd wedi’i gynnwys yn y Mesur i gynnwys gwella safonau addysg, yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar ddefnyddio adnoddau’n effeithiol ac effeithlon.

Dywedodd Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Roedd yn amlwg o’r dystiolaeth a gafwyd bod nifer o’r ymatebwyr o’r farn y dylai cydweithio ymwneud yn bennaf â gwella safonau a chanlyniadau i ddysgwyr.”

“Er ein bod yn derbyn ei bod yn gwbl briodol mai un o’r prif amcanion ar gyfer cydweithio yw defnyddio adnoddau’n effeithiol ac effeithlon, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym o’r farn y dylid gosod pwyslais briodol ar wella safonau addysg a chanlyniadau i ddysgwyr.”

Mae’r Pwyllgor wedi argymell hefyd fod y Mesur arfaethedig yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgynghori â phartïon sydd â diddordeb, gan gynnwys disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid, cyn bwrw ymlaen â chynigion i ffederaleiddio ysgolion o dan y ddeddfwriaeth.