Deiseb gan y Gymdeithas Sglerosis Ymledol yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiogelu nyrsys arbenigol

Cyhoeddwyd 10/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Deiseb gan y Gymdeithas Sglerosis Ymledol yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddiogelu nyrsys arbenigol

Cyflwynwyd deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw niferoedd nyrsys MS arbenigol yn lleihau dros gyfnod y Pedwerydd Cynulliad mewn digwyddiad yn y Senedd ddydd Mercher 9 Tachwedd.

Cymdeithas MS a gyflwynodd y ddeiseb, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ddiogelu nyrsys MS arbenigol rhag toriadau’r Bwrdd Iechyd, ac am fuddsoddiad ychwanegol lle mae prinder.  

Nod y ddeiseb yw sicrhau bod un nyrs MS arbenigol ar gael fesul 300 o bobl sy’n byw ag MS.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ddeisebu ar gael yma.