Democratiaeth ar Waith – cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf y Cynulliad
02 Hydref 2012
Bydd dau enillydd cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Senedd ddydd Mercher 3 Hydref am 18.00.
Cafodd y gystadleuaeth “Democratiaeth ar Waith” ei lansio yn Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Casnewydd gan Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, ym mis Mai.
Nod y gystadleuaeth fu annog pobl yng Nghymru i weld sut y gall unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau achosi newidiadau, ac i ddal y ddelwedd honno ar eu camera neu eu ffôn.
Cyflwynwyd bron i 200 o luniau a bydd enillydd y beirniaid ac enillydd dewis y bobl yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher yn y Senedd, mewn seremoni sy'n dechrau am 6pm.
Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd â Ffotogallery, hyrwyddwyr y cyfryngau lens yng Nghymru, ac Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Mae pob llun a ddaeth i law wedi cael ei arddangos ar wefan www.democratiaetharwaith.org ac mae'r lluniau a gyrhaeddodd y rhestr fer wedi cael eu harddangos yn y Senedd dros y mis diwethaf.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae pobl ledled Cymru wedi cyflwyno lluniau gwych”.
“Mae'n amlwg bod y gystadleuaeth wedi bod yn llwyddiant mawr gan ei bod wedi cael pobl i feddwl am wleidyddiaeth a'r broses ddemocrataidd.
“Gall safiad gan un person wneud gwahaniaeth mawr; gall newid ddigwydd pan fydd pobl o dref neu bentref yn ymuno i wneud gwelliannau; tra bod gwrthdystiadau a phrotest yn rhoi llais democratiaeth.
“Mae'r lluniau wedi dangos hyn ac maent yn profi bod pobl ledled Cymru yn pryderu am faterion yn eu cymunedau. Ein neges yw y gall y Cynulliad Cenedlaethol eich helpu i newid y materion hyn.
“Gall unigolion ddefnyddio ein system ddeisebu. Mae'r Cynulliad yn ymweld â grwpiau cymunedol, ysgolion a digwyddiadau yn rheolaidd. Gellir defnyddio'r dulliau hyn i fynd i'r afael â'r materion a godir yn y lluniau hyn.
Bydd yr enillwyr yn ennill camera SLR (rhodd gan Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd) a chwrs ffotograffiaeth gan Ffotogallery.