Democratiaeth ar Waith – cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf y Cynulliad

Cyhoeddwyd 03/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/07/2014

Democratiaeth ar Waith – cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf y Cynulliad

3 Hydref 2012

Cafodd y gystadleuaeth “Democratiaeth ar Waith” ei lansio yn Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Casnewydd gan Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, ym mis Mai.

Nod y gystadleuaeth oedd annog pobl yng Nghymru i weld sut y gall unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau beri newidiadau, ac i dynnu lluniau o'r newidiadau hynny ar eu camera neu ffôn symudol.

Daeth bron 200 o luniau i law ac mae'r beirniaid a'r cyhoedd wedi dewis eu henillwyr.

Tom Ashmore, ffotograffydd dogfennol o Gaerdydd, oedd dewis y beirniaid gyda'i lun "Adfer Caerdydd", yn dangos gweithredwyr yn paratoi ar gyfer protest.

 

Dywedodd Tom: "Tynnais y llun y llynedd, ar y dydd cyn protest Meddiannu Caerdydd yng Nghastell Caerdydd.

"Roeddwn wedi dilyn yr ymgyrch wrth iddo ledaenu ar draws y byd ac i'r DU. Rai dyddiau ynghynt, drwy ymchwilio a chwilota ar y rhyngrwyd, gwelais fod yr ymgyrch Meddiannu yn dod i Gymru a bod grŵp o ymgyrchwyr wedi trefnu i gwrdd mewn tafarn sydd wedi mynd â'i ben iddo i lunio baneri ar gyfer y brotest.

"Nid oeddwn yn disgwyl ennill y gystadleuaeth o gwbl. Rwyf wrth fy modd bod fy llun wedi cael ei ystyried gan banel o feirniaid mor nodedig. Rwyf wedi dilyn ac edmygu gwaith y ffotograffydd David Hurn ers amser, felly mae'n anhygoel meddwl ei fod wedi treulio amser yn ystyried un o'm lluniau.

"Hoffwn ddiolch i bawb a gyfranodd at drefnu'r gystadleuaeth, ac yn benodol i'r bobl y treuliais y noson honno gyda hwy. Cafodd fy syniadau rhagdybiedig am sgwatwyr a gweithredwyr eu newid am byth ar ôl treulio noson yng nghwmni pobl mor garedig ac angerddol."

Gwaith Robert Guy o Bengam oedd dewis y cyhoedd, sef y llun "Gwacter Bregus".

 

Dywedodd Robert: "Nid oeddwn am roi teitl i'r llun oherwydd fy mod am i bobl edrych arno a dod i'w casgliad eu hun.

"Fodd bynnag, yn bersonol, rwyf wedi galw'r llun yn "Gwacter Bregus". I mi, mae'r llun yn cynrychioli'r unigrwydd tywyll y mae'r rhan fwyaf o bobl hŷn yn ei brofi, ac roeddwn am ddangos hynny yn fy llun.

"Roeddwn hefyd am ddangos gymaint y mae ar bobl hŷn angen ein cymorth, ac nid cymorth ariannol neu fudd-daliadau yn unig, ond cyswllt â phobl eraill.

"Er enghraifft, mae rhai siroedd yn dod â'u gwasanaeth pryd ar glud i ben oherwydd toriadau i'w cyllidebau. Ond, nid y ffaith na fydd pryd poeth yn cael ei gludo i'w stepen drws fydd yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl hŷn; yn hytrach, byddant yn gweld eisiau'r cyswllt gyda'r bobl sy'n cludo'r prydau.

"Dyma'r ddemocratiaeth y byddaf yn ei chefnogi, i baratoi ar gyfer fy henaint anochel."

Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd â Ffotogallery, hyrwyddwyr y cyfryngau lens yng Nghymru, ac Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Mae pob llun a ddaeth i law wedi cael ei arddangos ar wefan www.democratiaetharwaith.org ac mae'r lluniau a gyrhaeddodd y rhestr fer wedi cael eu harddangos yn y Senedd dros y mis diwethaf.  

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae pobl ledled Cymru wedi cyflwyno lluniau gwych”.

“Mae'n amlwg bod y gystadleuaeth wedi bod yn llwyddiant mawr gan ei bod wedi cael pobl i feddwl am wleidyddiaeth a'r broses ddemocrataidd.

“Gall safiad gan un person wneud gwahaniaeth mawr; gall newid ddigwydd pan fydd pobl o dref neu bentref yn dod ynghyd i wneud gwelliannau; tra bo gwrthdystiadau a phrotestiadau yn rhoi llais i ddemocratiaeth.

“Mae'r lluniau wedi dangos hyn ac maent yn profi bod pobl ledled Cymru yn pryderu am faterion yn eu cymunedau. Ein neges ni yw y gall y Cynulliad Cenedlaethol eich helpu i newid y materion hyn.

“Gall unigolion ddefnyddio ein system ddeisebu.  Mae'r Cynulliad yn ymweld â grwpiau cymunedol, ysgolion a digwyddiadau yn rheolaidd. Gellir defnyddio'r dulliau hyn i fynd i'r afael â'r materion a godir yn y lluniau hyn.

Cafodd yr enillwyr gamera SLR digidol yr un (rhodd gan Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd) a lle ar gwrs ffotograffiaeth gan Ffotogallery.