Democratiaeth ar waith – Her y Llywydd i bobl Cymru dros yr haf

Cyhoeddwyd 20/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Democratiaeth ar waith – Her y Llywydd i bobl Cymru dros yr haf

20 Gorffennaf 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi gosod her i bobl Cymru cyn sioeau’r haf eleni.

Yn Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn nifer o sioeau sir, bydd tîm allgymorth y Cynulliad yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i geisio cynnwys mwy o bobl yn y broses o ddeddfu yng Nghymru.

Bydd Wal Aelodau lle gall ymwelwyr nodi mater sydd yn bwysig iddynt ar ddarn o bapur ac yna pinio’r papur ar lun eu Haelod Cynulliad lleol.

Fe allai fod yn fater lleol neu yn awgrym am gyfraith newydd yng Nghymru. Bydd yr awgrymiadau sy’n dod o fewn cymhwysedd datganoledig y Cynulliad yn cael eu hanfon at yr Aelod y cafodd y syniad ei binio arno.

Mae hyn oll yn dilyn thema cystadleuaeth ffotograffiaeth y Cynulliad, “Democratiaeth ar Waith”, sy’n annog pobl ledled Cymru i ddefnyddio eu camera i ddangos beth mae democratiaeth yn ei olygu iddynt hwy.

Bydd ymwelwyr â’r sioeau haf hefyd yn gallu gweld pob ymgais drwy ymweld â bws allgymorth y Cynulliad, a fydd ar feysydd y sioeau.

Bydd y Llywydd yn dechrau her yr haf i bobl Cymru drwy ymweld â’r Sioe Frenhinol ar 23 a 25 Gorffennaf.

Fel rhan o’r ymgyrch i annog cyfranogiad, bydd yn cwrdd ag aelodau o Undeb Bwyd a Ffermio’r Menywod Gogledd Ddwyrain Cymru ym mws allgymorth y Cynulliad ar 25 Gorffennaf.

“Mae ein holl sioeau haf yn ddigwyddiadau i’r teulu gyda’r pwyslais ar gael hwyl”, meddai Mrs Butler.

“Mae hwyl yn ganolog i’r holl weithgareddau byddwn yn eu cynnal yn y digwyddiadau hyn.

“Ond, mae ochr ddifrifol i hyn hefyd. Pleidleisiodd pobl Cymru yn gryf o blaid Cynulliad gyda phwerau deddfu llawn y llynedd.

“Nawr, rydym eisiau clywed pa faterion sy’n bwysig i unigolion a chymunedau ledled Cymru er mwyn i mi a fy nghydweithwyr allu defnyddio’r pwerau deddfu estynedig i greu deddfwriaeth sy’n adlewyrchu gobeithion a dyheadau pawb yng Nghymru.”

Dechreuodd gweithgareddau’r haf gyda chystadleuaeth ffotograffiaeth y Cynulliad, “Democratiaeth ar Waith”.

Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ym mis Mai gyda’r nod o ddangos i bobl fod gwleidyddiaeth yn ymwneud â materion sydd o bwys i unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau, a dangos sut y gall pobl fynd i’r afael â’r materion hynny trwy weithio gyda’u cynrychiolwyr etholedig a defnyddio democratiaeth mewn ffordd sydd o’u plaid hwy.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd â Ffotogallery, sy’n bencampwr cyfryngau lens yng Nghymru a’r Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.

Gall pobl gyflwyno eu delweddau “Democratiaeth ar Waith yng Nghymru” yma.

Bydd y ddelwedd fuddugol yn ennill camera SLR (rhodd gan Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a Chyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd) a lle ar gwrs ffotograffiaeth a gynhelir gan Ffotogallery. Cynhelir arddangosfa o’r 20 delwedd ar y rhestr fer yn y Senedd ym mis Medi, a chyhoeddir y ddelwedd fuddugol mewn seremoni wobrwyo ar 3 Hydref.