Dewch i holi Aelodau’r Cynulliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddwyd 06/08/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dewch i holi Aelodau’r Cynulliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd cyfle i Ddysgwyr Cymraeg sy’n ymweld â stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr Wyddgrug yr wythnos ‘gornelu’ Aelodau’r Cynulliad mewn sesiwn Hawl i Holi arbennig ddydd Iau 9 Awst am 2.00pm. Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad, yn cadeirio panel trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad, a fydd yn ateb cwestiynau a dderbyniwyd ar Stondin y Cynulliad yn ystod yr wythnos yn ogystal â chwestiynau a gaiff eu gofyn yn ystod y sesiwn ei hun.    Mae’r panel yn cynnwys John Griffiths, AC Llafur dros Gasnewydd a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau, AC Plaid Cymru dros Lanelli,  Helen Mary Jones, Eleanor Burnham AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru ac AC Gorllewin Clwyd, Darren Millar, a fydd yn cynrychioli’r Ceidwadwyr. Gan mai newydd ddechrau dysgu Cymraeg mae Darren, bydd Brynle Williams, AC dros Ogledd Cymru, yno i’w gynorthwyo. Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, “Mae’r Cynulliad yn ganolog i’r dasg o wneud Cymru yn wlad gwbl ddwyieithog ac mae annog pobl i ddysgu Cymraeg yn rhan bwysig o hyn.  Mae’n bwysig iawn fod dysgwyr Cymraeg yn cael cyfle i weld dysgwyr eraill yn defnyddio’r iaith fel rhan o’u bywydau bob dydd. Wrth wneud hyn yn gyhoeddus, mae Aelodau’r Cynulliad yn gosod esiampl ardderchog ac rwyf, felly, yn falch o gael bod yn rhan o’r digwyddiad pwysig hwn.”