Dewi’r Ddraig i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru er mwyn annog rhagor o bobl ifanc i gyfrannu at ddemocratiaeth

Cyhoeddwyd 17/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dewi’r Ddraig i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru er mwyn annog rhagor o bobl ifanc i gyfrannu at ddemocratiaeth

Bydd pobl ifanc sy’n ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni yn cael eu hannog i ddweud eu dweud am waith Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol.

Bydd aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â’r sioe ddydd Llun, 20 Gorffennaf, er mwyn canfod pa faterion sy’n bwysig i bobl ifanc Cymru.

Bydd Dewi’r Ddraig ac aelodau’r Pwyllgor yn crwydro’r maes er mwyn annog pobl ifanc i ddweud eu dweud a phleidleisio ar y materion sydd o bwys iddynt.

“Y bobl ifanc yn Sioe Frenhinol Cymru yw pleidleiswyr y dyfodol – a gwleidyddion y dyfodol, hyd yn oed”, meddai Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Felly, mae’n hanfodol ein bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn ymddiddori yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol.

“Drwy eu hannog i leisio’u barn am y materion y dylem ni, fel Aelodau’r Cynulliad, fod yn rhoi sylw iddynt, gobeithiwn allu dangos bod eu safbwyntiau yn cyfrif a’u bod yn gallu ysgogi newid.”

Bydd gofyn i’r cyfranwyr lenwi papur pleidleisio yn nodi pa faterion y dylid ymchwilio iddynt yn y dyfodol. Pan gyhoeddir canlyniad y bleidlais yn yr haf, mae’r Pwyllgor yn gobeithio edrych ar rai o’r materion a godwyd ar ran y plant a’r bobl ifanc.

Mae’r cyfan yn rhan o ymgais gan y Cynulliad Cenedlaethol i annog rhagor o bobl yng Nghymru i gyfrannu at y broses ddemocrataidd. Yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddiweddar, pleidleisiodd dros 700 o bobl ifanc ar y materion a oedd o bwys iddynt hwy.

Bydd aelodau’r Pwyllgor yn bresennol yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun, 20 Gorffennaf, a hynny ar stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 14.00 ac 15.00.