Dilynwch yr arian! Pwyllgor yn galw am fwy o dryloywder wrth osod cyllidebau ar gyfer materion sy’n effeithio ar bobl ifanc

Cyhoeddwyd 20/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dilynwch yr arian! Pwyllgor yn galw am fwy o dryloywder wrth osod cyllidebau ar gyfer materion sy’n effeithio ar bobl ifanc

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am archwiliad mwy manwl o faint o arian sy’n cael ei wario ar faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru yn lleol ac yn genedlaethol, a sut mae’r arian hwnnw’n cael ei wario.

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi un strategaeth  – cynllun gweithredu sy’n cynnwys manylion ynghylch sut y caiff hyn ei gyflawni – i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i fod yn dryloyw yn y broses o wario arian ar bobl ifanc.

Mae’n argymell y dylid cyhoeddi datganiadau cyllidebu ar gyfer plant pob tair blynedd ariannol – i ddangos sut y cafodd yr arian ei wario ac i ddefnyddio dull ‘cost a budd’ wrth ddadansoddi cyllidebau.

“Drwy sicrhau bod dadansoddiadau cyllidebol ar gael i’r cyhoedd drwy ddweud ‘roedd gennym £X miliwn, dyma sut y cafodd ei wario, dyma’r hyn roeddem yn ei obeithio fyddai’n digwydd, a dyma’r hyn a ddigwyddodd,’ credwn y gall llywodraethau effeithiol ennyn hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd,” dywedodd Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Gallai llywodraeth fod â’r polisi gorau yn y byd, ond os nad ydym yn gwybod i ble yr aiff yr adnoddau, ni fyddwn yn gallu olrhain a yw’r buddsoddiad wedi cael ei wneud.

“Yn y pen draw, mae angen i ni allu dilyn yr arian os yw llywodraethau am ddangos beth yw eu blaenoriaethau mewn gwirionedd.’

Mae’r adroddiad yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru yw’r unig un yn y DU sydd wedi dechrau gweithio yn y maes hwn, ac mae’n nodi bod y Llywodraeth yn cyfaddef ei bod yn rhy gynnar i gael dadansoddiadau cyllidebol.

Ond mae’n nodi bod angen archwilio’r adnoddau a neilltuwyd yn genedlaethol ac yn lleol mewn cyllidebau ar gyfer plant a bod angen mabwysiadu dull mwy cydlynol o weithio gydag awdurdodau lleol.

Cliciwch i weld y ddogfen