Diogelwch Cymunedol yng Nghymru - Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 18/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2016

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi gwneud y datganiad a ganlyn ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ‘Diogelwch Cymunedol yng Nghymru’.

Dywedodd Mr Ramsay:

“Roedd diogelwch cymunedol yn flaenoriaeth allweddol yn y rhaglen lywodraethu ddiwethaf, ac mae’n parhau’n fater pwysig i ddinasyddion.

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnig beirniadaeth fanwl o’r ffordd y mae’r sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelwch cymunedol - yn genedlaethol yn y DU ac yng Nghymru - yn gweithio gyda’i gilydd ar hyn o bryd ac yn defnyddio adnoddau i sicrhau gwelliannau.

“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rai gwendidau sylweddol yn y trefniadau presennol ac mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhai o’r materion difrifol o bryder y mae angen i’r gwahanol gyrff sy’n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol yng Nghymru ymdrin â nhw.”

Bydd yr adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.