Dirprwy Lywydd y Cynulliad yn cwrdd â Llywydd newydd CALRE

Cyhoeddwyd 08/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

8 Hydref 2010

Dirprwy Lywydd y Cynulliad yn cwrdd â Llywydd newydd CALRE

Mae Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi bod yn cynrychioli Cymru yng nghyfarfod blynyddol CALRE.

CALRE yw’r corff sy’n cynrychioli seneddau deddfu rhanbarthol Ewrop.

Yn ystod y cyfarfod, cyfarfu Mrs Butler â’r Arlywydd Nazario Pagano, sef Llywydd Senedd Abruzzo yn yr Eidal.

Mae hefyd wedi cael ei benodi’n Llywydd CALRE am y flwyddyn nesaf.

Caiff Cyfarfod Llawn nesaf CALRE ei gynnal yn 2011 yn L’Aquila, sef prifddinas Abruzzo, a ddioddefodd yn arw mewn daeargryn y llynedd.

"Mewn cyfnod pan mae rhanbarthau Ewrop yn chwarae mwy o ran yng ngwaith yr Undeb Ewropeaidd, mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Gymru i weithio gyda’n chwaer ranbarthau i weithio er budd pobl ledled Ewrop. Gwyddom mai ar y lefel ranbarthol hon y gellir ymateb i anghenion pobl yn y ffordd fwyaf effeithiol," meddai Mrs Butler.