Dweud eich dweud am Gronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020

Cyhoeddwyd 10/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dweud eich dweud am Gronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020

10 Hydref 2011

Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad i ddyfodol Cronfeydd Strwythurol yr UE ar ôl 2013 ac mae’n galw am dystiolaeth gan unigolion a chyrff sydd â diddordeb.

Bydd yr ymchwiliad yn cael ei seilio ar y cynigion deddfwriaethol y mae’r Comisiwn Ewropeaidd newydd eu cyhoeddi ynghylch dyfodol Polisi Cydlyniant yr UE, sy’n diffinio’r modd y caiff cyllid ei gynllunio yn y dyfodol ac sy’n pennu rheolau cyffredin ar gyfer rheoli’r gwahanol ffrydiau ariannu.

Y fframwaith cyfreithiol hwn fydd yn rheoli Polisi Cydlyniant yr UE rhwng 2014 a 2020 a chaiff ei drafod gan wledydd Ewrop ym Mrwsel dros y 12-18 mis nesaf.

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i ddylanwadu ar y trafodaethau hyn drwy gynnig sylwadau rhanddeiliaid o Gymru.

Ymhlith y pynciau sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor yw’r hyn y gallai’r cynigion ei olygu i Gymru, yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth iddynt wrth drafod y cynigion, a sut y gall Cymru sicrhau bod ei barn yn llywio’r trafodaethau hyn.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, Nick Ramsay AC: “Mae Cronfeydd Strwythurol yr UE yn arbennig o bwysig i Gymru oherwydd, drwyddynt, rydym yn manteisio ar fuddsoddiad o oddeutu £1.9 biliwn rhwng 2007 a 2013.

“Rydym am ystyried beth y gallai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ei olygu i Gymru a sicrhau bod Cymru yn cael pob cyfle i ddylanwadu ar y trafodaethau cyn i’r genhedlaeth newydd o raglenni polisi cydlyniant ddechrau yn 2014.”

DIWEDD

Nodiadau i’r golygyddion:-

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, gan gynnwys y Cylch Gorchwyl, i’w cael yma.

Mae cynigion deddfwriaethol drafft y Comisiwn Ewropeaidd i’w cael yma.

Mae modd cyflwyno tystiolaeth drwy’r e-bost neu drwy’r post erbyn 14 Tachwedd:

Siân Phipps, Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA, sian.phipps@wales.gov.uk.