Dy lais di, dy ffordd di - y Cynulliad yn dechrau ymgynghoriad cenedlaethol â phobl ifanc

Cyhoeddwyd 18/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dy lais di, dy ffordd di - y Cynulliad yn dechrau ymgynghoriad cenedlaethol â phobl ifanc

18 Medi 2013

Sut y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymgysylltu â phobl ifanc?

Dyna gwestiwn canolog arolwg Cymru gyfan o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed a fydd yn agor heddiw, 18 Medi.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, "Os ydych rhwng 11 a 18 oed, mae angen eich help chi arnom ni."

"Rydym am i chi ddweud wrthym beth sy'n bwysig i chi, beth yr ydych yn ei ddisgwyl gennym ni a beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod eich llais chi yn cael ei glywed.

"Rydym eisiau i chi ddweud wrthym beth fyddai'r ffyrdd gorau o'ch cynnwys yng ngwaith y Cynulliad."

Dim ond 35 y cant o bobl rhwng 18 a 24 oed aeth allan i bleidleisio yn etholiad diwetha'r Cynulliad yn 2011, ac mae'r ymddieithrio hwn ymysg pobl ifanc i'w weld hefyd yn y nifer a bleidleisiodd mewn etholiadau eraill, yn ogystal â gwaith ymchwil ehangach.

Dyna pam mae’r Llywydd am sicrhau bod ymgysylltu â phobl ifanc yn un o flaenoriaethau allweddol y Pedwerydd Cynulliad, oherwydd er nad yw pobl o dan 18 oed yn gymwys i bleidleisio, gallan nhw roi eu barn am sut y mae Cymru’n cael ei rhedeg drwy helpu i lunio cyfreithiau a chyfrannu at ymchwiliadau.

Un flwyddyn ar bymtheg ers y refferendwm a welodd pobl Cymru’n pleidleisio i sefydlu eu deddfwrfa ddatganoledig eu hunain, mae gwefan newydd, www.dygynulliad.org, wedi cael ei lansio er mwyn annog pobl ifanc i ddweud wrth y Cynulliad beth sy’n eu poeni a sut yr hoffent gymryd rhan.

Rhan o'r safle yw arolwg ar-lein ac mae'n cynnig cyfle i gynnal trafodaethau grwp a gaiff eu trefnu gan staff y Cynulliad Cenedlaethol lle y gellir cynnig a chyfnewid syniadau.

Yn ogystal â'r arolwg a'r grwpiau trafod, caiff pobl ifanc eu hannog i fynegi barn drwy @DyGynulliad neu drwy ddefnyddio #DyGynulliad ar twitter, rhoi neges ar dudalen Dy Gynulliad Di ar Facebook neu gyflwyno fideos.