Dychweliad y Pwyllgor Deisebau yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i bob cymuned yng Nghymru

Cyhoeddwyd 15/06/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dychweliad y Pwyllgor Deisebau yn cadarnhau ymrwymiad y Cynulliad i bob cymuned yng Nghymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ymgysylltu a holl gymunedau Cymru yn ei bedwaredd sesiwn.

Fel rhan o’r gwaith hwn, anogir grwpiau materion sengl, elusennau, clybiau chwaraeon, a grwpiau cymunedol, yn ogystal a chymunedau daearyddol, i gymryd rhan ym musnes y Senedd sy’n ymwneud a llunio deddfwriaeth a chraffu ar waith y Llywodraeth.

Mae ailsefydlu’r Pwyllgor Deisebau’n rhan hanfodol o gyrraedd y nod hwn, ac yn ei gyfarfod cyntaf ddydd Mawrth 21 Mehefin, bydd y pwyllgor yn ystyried deisebau newydd sy’n dod o gymunedau drwy Gymru.

Bydd y pwyllgor, dan gadeiryddiaeth Christine Chapman AC, yn dechrau ystyried deisebau newydd sydd wedi dod gerbron, gan gynnwys un ynghylch cau ysgolion bach ac un arall ynghylch llosgyddion arfaethedig ar safleoedd drwy Gymru.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried deiseb newydd a chanddi dros 2,000 o enwau — y nifer fwyaf a gafwyd hyd yn hyn drwy system e-ddeisebau’r Cynulliad — a ysgogwyd gan y polisi ffermydd gwynt a phryderon o’r herwydd am bresenoldeb peilonau ac is-orsafoedd yng nghymunedau Cymru.

Ers ei lansio yn 2008, mae’r Pwyllgor wedi ystyried dros 200 o ddeisebau, gyda’r pynciau’n amrywio o doiledau cyhoeddus i ferlod pwll glo. Mae hefyd wedi cynnal 64 cyfarfod cyhoeddus a chlywed tystiolaeth ar lafar gan 38 o ddeisebwyr.

Mae’r Cynulliad yn un o’r ddwy ddeddfwrfa yn unig yn DU a phwyllgor deisebau, ac mae ei waith yn cadarnhau thema’r pedwerydd Cynulliad: “Cynulliad y Cymunedau”.

Dywedodd Christine Chapman AC: “ Er 2008, cyflwynwyd deisebau o bob cwr o Gymru, a phob un yn dechrau ar lawr gwlad gydag aelodau’r cyhoedd a oedd am gyflawni newid.

“Mae’r deisebau wedi amrywio o ran pwnc, o dyrbinau gwynt a gorsafoedd rheilffordd i gydraddoldeb ac ysgolion. Mae hi mor bwysig bod gan bobl borth uniongyrchol ar gyfer ymgysylltu dinesig, ac mae’r system ddeisebau’n hwyluso hyn.

“Er nad yw cyflwyno deiseb yn arwain ohono’i hun at gyflawni nod y ddeiseb, mae’n ffordd effeithiol o dynnu sylw at faterion ac mae’r system yn rhoi i’r cyhoedd y gallu i ddylanwadu ar fusnes y Cynulliad a’i lywio”.