Yn dilyn dyfarniad y Goruchel Lys ar gynlluniau Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â Brexit, mae David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, wedi ymateb â'r datganiad a ganlyn.
Dywedodd Mr Rees:
“Rwy'n croesawu penderfyniad y Goruchaf Lys heddiw, a fydd yn caniatáu i waith craffu seneddol gwirioneddol gael ei gynnal ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Brexit. Mae'n bwysig, fodd bynnag, fod pob un o wledydd y Deyrnas Unedig yn cael cyfle i gyfrannu at y broses hon.
Wrth edrych ymlaen, disgwyliaf i Brif Weinidog y DU gadw at yr ymrwymiad a wnaeth yr wythnos ddiwethaf y byddai'n ymgysylltu'n llawn â'r llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig. O wneud hynny'n unig y gellir sicrhau'r canlyniad gorau i'r DU yn ystod y broses o adael yr UE.”
Bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn cyhoeddi canfyddiadau ei adroddiad yn archwilio effaith Brexit ar Gymru ddydd Gwener 27 Ionawr.