Dyfodol Ffermio: Y Cynulliad Cenedlaethol yn y Sioe Fawr

Cyhoeddwyd 18/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/07/2019

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar ddyfodol ffermio yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd eleni gyda digwyddiadau gan y Llywydd a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.


Bydd Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn y Sioe Fawr mewn partneriaeth â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Ddydd Mercher, 24 Gorffennaf, bydd y Llywydd, Elin Jones AC, yn cadeirio trafodaeth banel gydag arbenigwyr a rhai sy'n gweithio ar draws y diwydiant.

Bydd y digwyddiad, sy'n rhan o raglen 20 mlynedd o ddatganoli y Cynulliad, yn canolbwyntio ar sut mae ffermio wedi datblygu dros y ddau ddegawd diwethaf ac yn trafod sut y gallai awtomeiddio a datblygiadau technolegol eraill newid y sector yn y dyfodol. Bydd y panel hefyd yn trafod sut i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddechrau ffermio.

Y panelwyr fydd:

  • Dr Prysor Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol, Prifysgol Bangor
  • Dafydd Jones, Cadeirydd, CFfI Cymru
  • Teleri Fielden, Ysgolhaig Llyndy Isaf CFfI, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ffermwr cenhedlaeth gyntaf
  • Branwen Miles, Swyddog Prosiect, Sefydliad Tirfeddianwyr Ewrop
  • Cai Thomas Phillips, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Yn ôl Elin Jones:

"Wrth i ni nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, mae'r amser a'r lle yn briodol i edrych ar sut mae ein sector amaethyddol wedi esblygu mewn dau ddegawd, a pha heriau a chyfleoedd sydd o'n blaenau.

"Rwy'n edrych ymlaen at drafod y meysydd hyn gyda'n panel, sydd ag ystod mor eang o safbwyntiau a phrofiad, mewn trafodaeth sy'n argoeli i fod yn amrywiol a diddorol."

Cynhelir y digwyddiad ym mhafiliwn S4C rhwng 14.00 a 16.00.

Yn gynharach ar y dydd Mercher, 24 Gorffennaf, bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried yr heriau sy'n wynebu'r sectorau amaethyddiaeth, defnydd tir a choedwigaeth wrth gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o drosglwyddo i economi net di-garbon erbyn 2050.

Mae cynllun datgarboneiddio Llywodraeth Cymru yn cynnwys lleihau allyriadau carbon 28 y cant yn erbyn lefelau 1990 a chynyddu defnydd tir.

Bydd Cadeirydd y Pwyllgor, Mike Hedges AC, yn arwain y panel sy'n cynnwys:

  • Nerys Llewelyn Jones, Ymgynghorydd Amaeth
  • Arfon Williams, RSPB Cymru
  • Anthony Geddes, Confor
  • James Byrne Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru

Cynhelir y digwyddiad ym mhafiliwn ITV Cymru rhwng 11.00 a 12.30.

Bydd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn y Sioe hefyd i siarad â phobl ifanc drwy gydol y digwyddiad. Bydd yr Aelodau wrth law ym mhafiliwn Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru a byddant yn casglu safbwyntiau ac awgrymiadau fel rhan o'i harolwg yn edrych ar sgiliau bywyd yn y cwricwlwm.