Dylai addysg am berthnasoedd iach fod yn orfodol ym mhob ysgol – meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 12/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/12/2016

​Dylai addysgu am berthnasoedd iach fod yn rhan o’r cwricwlwm mewn ysgolion yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi bod yn trafod pa mor effeithiol yw’r gyfraith ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2015.

Un o’r prif feysydd y trafododd y Pwyllgor oedd addysg am berthnasoedd iach. Mae’r Pwyllgor yn tynnu sylw at bwysigrwydd addysgu plant a phobl ifanc am berthnasoedd iach, ac mae’n credu bod hyn yn allweddol o ran atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’n pryderu nad yw pob ysgol yng Nghymru yn addysgu am berthnasoedd iach ac mae’n argymell cynnwys addysg orfodol am berthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.

Clywodd y Pwyllgor gan nifer o ffynonellau y gallai’r ddeddfwriaeth arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau arbenigol i gefnogi goroeswyr trais a cham-drin wrth i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r materion hyn gynyddu. Os bydd hyn yn digwydd, mae’r Pwyllgor yn pryderu y gallai sefydliadau sy’n darparu cymorth i oroeswyr, yn enwedig yn y sector gwirfoddol, fethu ag ymdopi.

Yn ystod ei ymchwiliad, cyfarfu’r Pwyllgor â goroeswyr a rannodd eu profiadau, a chlywodd am effeithiau cam-drin a thrais ar unigolion a’u teuluoedd.

“Caiff y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ei gydnabod yn rhyngwladol fel cyfraith arloesol,” meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

“Mae potensial iddi greu gwelliannau go iawn o ran y trefniadau ar gyfer amddiffyn a chefnogi goroeswyr. Fodd bynnag, rydym yn cwestiynu a yw’r Ddeddf yn ei hun yn ddigon i greu’r newid cymdeithasol rydym yn credu sy’n angenrheidiol i atal cam-drin.

“Rydym yn credu bod addysg am berthnasoedd iach yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, ac yn credu bod angen cyflwyno addysg o’r fath ym mhob ysgol cyn i agweddau niweidiol tuag at ryw a pherthnasoedd ddatblygu.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau cyhoeddus ynghylch sut gallant alinio pecynnau hyfforddiant, asesiadau anghenion a fframweithiau canlyniadau gyda’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol;
  • Dylai Llywodraeth Cymru roi amserlen ynghylch pryd y bydd y Bwrdd Ymgynghorol yn cwblhau ei waith ar fodel cyllido cynaliadwy ar gyfer y sector arbenigol (a phryd y bydd yn cyfathrebu am hyn);
  • Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gynnwys addysg am berthnasoedd iach yn y cwricwlwm o dan y Maes Dysgu a Phrofiad ‘Iechyd a Llesiant’, a dylai sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno ym mhob ysgol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adroddiad hwn.

Adroddiad terfynnol (1MB)