Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi amlinellu nifer o gamau gweithredu sydd eu hangen, yn ôl y Pwyllgor, i sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn gweithredu'n effeithiol i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Nod Bil Cymwysterau Cymru yw sefydlu Cymwysterau Cymru fel y corff rheoleiddiol annibynnol sy'n gyfrifol am gydnabod cyrff dyfarnu ac am adolygu a chymeradwyo cymwysterau yng Nghymru nad ydynt ar lefel gradd.
Bydd prif nodau'r corff newydd fel a ganlyn:
- sicrhau bod cymwysterau, a'r system gymwysterau, yn effeithiol i ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; a
- hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
"Er bod y Pwyllgor yn llwyr o blaid sefydlu Cymwysterau Cymru, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion a fyddai'n atgyfnerthu'r Bil, yn ein barn ni.
"Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd gan randdeiliaid, ac yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio'n agos â Phrif Weithredwr Cymwysterau Cymru, cyn ei sefydlu'n ffurfiol, i sicrhau bod unrhyw broblemau posibl yn cael eu hystyried yn llawn ymlaen llaw."
Bil Cymwysterau Cymru: Adroddiad Pwyllgor Cyfnod 1 (PDF, 620KB)