Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael pwerau eang i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd 05/06/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael pwerau eang i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg

Mae adroddiad gan Bwyllgor y Cynulliad, a gyhoeddir heddiw, yn nodi y dylid rhoi'r cwmpas ehangaf posibl o bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Aelodau Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, sydd wedi bod yn ystyried cynnig Llywodraeth Cymru i gael pwerau deddfu yn y maes hwn, yn credu y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael yr hawl i ddeddfu yn y maes hwn.

Dywedodd Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn cytuno â’r unigolion a’r sefydliadau niferus sy’n cefnogi trosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol, bod yr iaith Gymraeg yn fater sydd â chysylltiad unigryw â’r genedl Gymreig, ac felly ei bod yn synhwyrol bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i ddeddfu ar y mater hwn.

“Rydym yn argymell y dylai’r Cynulliad gael pwerau eang dros yr iaith Gymraeg, gan osgoi’r  dryswch o fanylu ar bwy fydd, neu na fydd, yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth pellach yn y dyfodol, ar yr adeg hon. Credwn y gallwn gael dadl fwy gwybodus o lawer pan gaiff y Mesurau arfaethedig eu cyflwyno.

“Dywedodd y Gweinidog nad oedd yn bwriadu gosod dyletswyddau ar fusnesau bach ac na fydd hyn yn effeithio ar y mwyafrif o fusnesau yng Nghymru.”

Yn ei argymhellion, ystyriodd y Pwyllgor y pryderon a fynegwyd yn y dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan dystion yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Mae’r Aelodau’n credu bod hyn yn deillio o natur fanwl y Gorchymyn arfaethedig, a’r diffyg eglurdeb sy’n anochel yn y cyfnod hwn o’r broses ddeddfu. Bydd y Cynulliad yn ystyried goblygiadau posibl Mesurau a fydd yn deillio o’r Gorchymyn hwn, ac yn craffu arnynt, yn ystod y cyfnod Mesur.

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor os na all y Gweinidog dderbyn eu prif argymhelliad, sef y dylid trosglwyddo cwmpas eang o bwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg i’r Cynulliad, y byddent am iddo ddiwygio’r Gorchymyn arfaethedig i nodi pa gyrff neu sefydliadau ychwanegol a ddylai ddod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ar yr iaith.

Bydd yr argymhellion hyn yn cynnwys ehangu cwmpas y Gorchymyn i gynnwys:

  • cyrff partneriaeth sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus

  • gwasanaethau trafnidiaeth yn cynnwys rheilffyrdd, bysiau, hedfan a gwasanaethau ar y môr

  • sefydliadau ariannol mawr, yn cynnwys banciau.

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi cynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus; cyfleustodau; gwasanaethau telathrebu; gwasanaethau post a swyddfeydd post; addysg, hyfforddi neu gyfarwyddyd gyrfaoedd a gwasanaethau cymwysterau addysgol fel y cynigiwyd yn y Gorchymyn arfaethedig gan Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn feirniadol o’r ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn bosibl i osod dyletswyddau ar unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus ac sy’n cael mwy na £200,000 o arian cyhoeddus, gan ei fod yn teimlo bod y trothwy yn un mympwyol. Nid yw’r Pwyllgor yn credu y dylid cynnwys unrhyw drothwy ariannol yn y Gorchymyn arfaethedig ac mae’n argymell yn gryf bod y Gweinidog yn ailddrafftio’r ddarpariaeth hon.  

Er bod y Pwyllgor yn cytuno â’r egwyddor y dylai sefydliadau sy’n cael arian cyhoeddus yn rheolaidd fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau, dylid diffinio’r categori yn fwy manwl yn y Mesurau dilynol. Mae’r Pwyllgor yn credu y bydd rhaid i’r Gweinidog ystyried natur y gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd, maint y sefydliad a’i statws cyfreithiol mewn unrhyw Fesur yn y dyfodol.

Ychwanegodd Mr Isherwood: “Yn amodol ar ein hargymhellion, dylai’r Gorchymyn arfaethedig roi’r cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad i’w alluogi i gyflawni’r amcan cymdeithasol a fydd yn caniatáu i bobl Cymru fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

“Credwn mai’r ffordd orau o wneud hyn yw drwy bwysleisio cydweithredu a chonsensws.”

Yr Adroddiad a rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor