​​Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ffigurau manylach am berfformiad mewnfuddsoddi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 08/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2015

Cred Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddatblygu a chyhoeddi Dangosyddion Perfformiad Allweddol tryloyw sy'n dangos perfformiad blynyddol economi Cymru o ran mewnfuddsoddi.

Dyma un o brif ganfyddiadau'r ymchwiliad diweddar y mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi'i wrthod.

Teimla'r Pwyllgor nad yw'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Masnach a Buddsoddi y DU yn caniatáu gwaith craffu ar berfformiad Llywodraeth Cymru, a theimla y dylai dangosyddion newydd gynnwys cyfanswm nifer y prosiectau newydd, mentrau ar y cyd, derbyniadau, prosiectau a gaiff eu hehangu a'u cadw ac, ar gyfer pob un o'r mathau hyn o brosiectau, nifer y swyddi a grëwyd, nifer y swyddi a ddiogelwyd a chyfanswm gwerth y buddsoddiad neu'r gwariant cyfalaf dan sylw.

Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfres gyfwerth o ffigurau ar gyfer prosiectau yr oedd yn cymryd rhan uniongyrchol ynddynt, gan hefyd ddangos lefel yr adnoddau ariannol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru wrth ddiogelu'r prosiectau a denu pencadlysoedd a chyfleusterau ymchwil a datblygu i Gymru.

Dywedodd yr Athro Max Munday o Ysgol Fusnes Caerdydd, a gyflwynodd adroddiad i'r Pwyllgor:

"Mae'r math o ffigurau a ddefnyddir gennym fel y gall dadansoddwyr fonitro gweithgynhyrchu tramor a buddsoddiad uniongyrchol o dramor, bron yn gwbl ddiwerth.

"Er enghraifft, roedd pennawd yn y newyddion lle cafodd ei ddyfynnu bod Cymru wedi gweld cynnydd o 191% mewn mewnfuddsoddi. Wel, na, nid yw hyn yn wir. Roedd yr honiad hwnnw yn seiliedig ar nifer o brosiectau, neu rywbeth felly, neu nifer o swyddi. Nid yw hynny yr un fath â buddsoddiad cyfalaf."

Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn ystyried gwelliannau ar gyfer yr ystadegau economaidd sydd ar gael yng Nghymru ac yn cymryd camau i wella ansawdd a phrydlondeb yr ystadegau economaidd.

Un o brif argymhellion y Pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu neu weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio ffigurau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ar gyfer Cymru, ar yr un sail ac yr un mor aml ag y gwneir hyn ar gyfer y DU.

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd gomisiynu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio ystadegau allforio gwell ar gyfer Cymru sy'n adlewyrchu'r cyfraniad a wneir gan fusnesau Cymru i allforion y DU ar ffurf allbynnau canolraddol.