Dylai Lwfansau Cynhaliaeth Addysg barhau i gael eu targedu at y myfyrwyr sydd fwyaf eu hangen
Dylai myfyrwyr o deuluoedd incwm isel barhau i fod yn ganolog i gynllun Lwfansau Cynhaliaeth Addysg Llywodraeth Cymru.
Dyna farn pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad ar ôl ystyried deiseb gan Catrin Anne Davies, myfyrwraig o Dreffynnon.
Anfonodd ddeiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar seilio’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar fyfyrwyr unigol, yn hytrach nag ar incwm eu rhieni.
Er bod Aelodau Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad yn cydymdeimlo â dadl y deisebwr, roeddent yn teimlo y byddai newid o’r fath yn golygu rhannu yr un adnoddau rhwng mwy o fyfyrwyr, pan fo’r adnoddau hynny eisoes yn brin.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn cydymdeimlo’n fawr ag amgylchiadau personol y deisebwr ac yn canmol ei hymdrechion cadarnhaol i newid y system a dweud ei dweud drwy anfon deiseb i’r Cynulliad Cenedlaethol.
“Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod, oherwydd prinder adnoddau, y dylid canolbwyntio’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar y myfyrwyr hynny sy’n dod o gartrefi sydd â’r incwm isaf.
“Felly, nid ydym yn cefnogi’r galw ar y lwfans i gael ei daenu’n denau drwyddo draw. Dylai gael ei dargedu’n effeithiol lle gall wneud y gwahanaieth mwyaf”
Mae Aelodau’r Pwyllgor hefyd yn rhagweld y bydd y dirwasgiad economaidd presennol yn gosod pwysau ychwanegol ar y system, felly maent am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i fynd i’r afael â hyn.
Mae Aelodau hefyd yn galw am adolygiad o effaith y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar berfformiad addysgiadol gan nad ydynt yn teimlo bod y system wedi cael ei mfonitro’n iawn.
Dyma rai o argymhellion eraill y Pwyllgor:
dylid mynd i’r afael ag anghysondebau o ran cyfrifo incwm y cartref er mwyn cael gwared ar unrhyw annhegwch
ni ddylai oedi annerbyniol mewn taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg ddigwydd eto a dylid sefydlu systemau i sicrhau nad yw astudiaethau myfyrwyr yn cael eu peryglu o ganlyniad i fethiant gweinyddol.