Dylai mynd i'r afael â materion iechyd meddwl ac adeiladu gwydnwch, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl da mewn plant a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi nodi angen brys i fuddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar. Mae'r Pwyllgor yn credu y gellid lleihau neu hyd yn oed osgoi'r trallod y mae nifer o blant a phobl ifanc yn ei brofi drwy sicrhau y gallent elwa ar y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, mewn ysgolion ac mewn gofal sylfaenol ledled Cymru.
Fel rhan o ymchwiliad eang y Pwyllgor i iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru, gwnaed galwadau cadarn gan randdeiliaid am fwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar ac adeiladu gwydnwch emosiynol. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori iechyd meddwl yn y cwricwlwm newydd a sicrhau y caiff ysgolion eu cefnogi gan wasanaethau eraill - gwasanaethau iechyd yn bennaf - i leihau'r stigma sydd ynghlwm wrth salwch meddwl a sicrhau y gall plant a phobl ifanc ofalu am eu lles emosiynol.
Mae'r Pwyllgor yn credu bod angen newid mawr i fynd i'r afael â'r materion hyn. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol benodedig drwy:
ddarparu adnoddau digonol wedi'u clustnodi i wneud ysgolion yn ganolfannau cymunedol gefnogaeth traws-sector a thraws-broffesiynol ar gyfer gwydnwch emosiynol a lles meddwl, gyda chefnogaeth gan gyrff statudol a'r trydydd sector, yn enwedig iechyd;
sicrhau bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm newydd;
sicrhau bod pawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc, sy'n gwirfoddoli, neu sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael hyfforddiant ym maes ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â stigma a hybu iechyd meddwl da.
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y gwelliannau a wnaed ers 2014 mewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant a'r glasoed, a'r buddsoddiad ychwanegol sylweddol a wnaed yn y gwasanaethau hynny.
Fodd bynnag, daw'r Pwyllgor i'r casgliad nad yw'r newidiadau hyn yn mynd yn ddigon pell, ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau ar frys i ben blaen y llwybr gofal – sef lles a gwydnwch emosiynol ac ymyrraeth gynnar.
Mae'r Pwyllgor yn credu y bydd methu â chyflawni yn hyn o beth yn golygu y bydd mwy o alw am wasanaethau arbenigol na'r hyn sydd ar gael, gan fygwth eu cynaliadwyedd a'u heffeithiolrwydd
Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Amcangyfrifir y bydd gan dri phlentyn ym mhob ystafell ddosbarth gyffredin broblem iechyd meddwl. Erbyn y bydd plentyn yn 14 oed, bydd hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi dechrau. Er mwyn atal y llif, mae angen newid sylweddol yn y flaenoriaeth a gaiff ei rhoi i gefnogi gwydnwch a lles emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru.
“Mae bellach yn amser am gadernid meddwl a darparu cefnogaeth briodol, brydlon ac effeithiol o ran iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i’n plant a’n pobl ifanc. Am y rheswm hwnnw, rydym yn gwneud un argymhelliad allweddol – mae angen rhoi sylw ar frys i gefnogaeth ataliol ac ymyrraeth gynnar, a dylai Llywodraeth Cymru wneud hynny'n flaenoriaeth genedlaethol ddynodedig. Bydd methu â darparu yn hyn o beth yn golygu y bydd ein plant a'n pobl ifanc yn dioddef trallod diangen.
“Yn syml iawn, nid yw’r darnau yn eu lle i alluogi plant a phobl ifanc i gael cymorth y tu allan i’r lleoliadau mwyaf arbenigol. Mae hyn yn annerbyniol, a rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys.”
Yn ogystal â'r prif argymhelliad, mae'r Pwyllgor yn gwneud 27 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r holl fentrau lles emosiynol a meddyliol sydd ar waith yn ysgolion Cymru, gyda'r bwriad o argymell dull cenedlaethol i ysgolion ei fabwysiadu, yn seiliedig ar arfer gorau;
bod Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun peilot o rôl "athro cyfarwyddyd" yng Nghymru, neu fabwysiadu model arall sy'n dyrannu cyfrifoldeb dros iechyd emosiynol ac iechyd meddwl disgyblion i aelod arweiniol o staff addysgu neu staff nad ydynt yn addysgu;
bod Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol (LPMHSS) lleol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru;
bod Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â hunanladdiad yn benodol, yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol i ddarparu canllawiau i ysgolion ynghylch siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio;
bod Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer darparu therapïau seicolegol i blant a phobl ifanc;
bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â darn o waith ar ddarparu cymorth emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl i blant sy'n derbyn gofal a phlant a fabwysiadwyd gyda ffocws penodol ar y graddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol.
Darllen yr adroddiad llawn: