Dylai'r broses o gasglu trethi fod yn raddol meddai pwyllgor Cynulliad

Cyhoeddwyd 28/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/05/2015

​Cred Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru y dylai'r broses o gasglu trethi yng Nghymru fod yn raddol yn dilyn ymchwiliad i'r mater.

 

O fis Ebrill 2018, bydd angen i Gymru gael system ar gyfer casglu a rheoli trethi newydd a gyflwynir yng Nghymru a chred y Pwyllgor Cyllid mai'r flaenoriaeth yn ystod y cyfnod pontio hwn ddylai fod i geisio sicrhau sefydlogrwydd a chysondeb i drethdalwyr.  Mae'r Pwyllgor yn awyddus i'r system ar gyfer trethi datganoledig ganiatáu ar gyfer newidiadau yn y dyfodol, ar ôl aildrefnu llywodraeth leol neu pan fydd Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael cyfle i feithrin profiad ac arbenigedd. Byddai hyn yn sicrhau cysondeb ym mlynyddoedd cyntaf y trethi newydd yng Nghymru, ond hefyd yn sicrhau bod cwmpas ar gyfer newid yn y dyfodol.

 

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai'r system drethi weithredu mewn ffordd dryloyw a bod yn atebol yn uniongyrchol i'r Cynulliad, gydag un o bwyllgorau'r Cynulliad yn gwneud y gwaith craffu.

 

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

 

"Gan nad oes unrhyw achosion busnes gyda chostau manwl ar gael, ni allai'r Pwyllgor fynegi barn gadarn ynghylch pa gorff ddylai fod yn gyfrifol am gasglu trethi datganoledig yng Nghymru.  Hoffem weld y costau hyn ar gael pan fo'r Bil Casglu a Rheoli Trethi yn cael ei gyflwyno yn ystod yr haf.

 

"Credwn hefyd y dylai'r broses o gasglu trethi yng Nghymru fod yn un graddol er mwyn sicrhau cysondeb i drethdalwyr, yn ogystal â sicrhau cwmpas ar gyfer newid yn y dyfodol."