Dylai'r system addasiadau yn y cartref ganolbwyntio ar y person - geiriau Pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 17/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dylai'r system addasiadau yn y cartref ganolbwyntio ar y person - geiriau Pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2013

Mae angen i'r system darparu addasiadau yn y cartref yng Nghymru fod yn symlach ac yn decach ac yn un sy'n canolbwyntio ar y person, yn ôl un o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn galw ar bob awdurdod lleol perthnasol yng Nghymru i lunio siarter cwsmeriaid sy'n pennu hawliau pobl o ran addasiadau ac yn rhoi ymrwymiad cyhoeddus i gyflawni pethau penodol o fewn amser penodol.

Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor gan bobl â phrofiad o angen addasiadau i'w cartrefi bod angen iddynt gael fwy o lais o ran y gwasanaeth maent yn ei dderbyn, bod angen cofrestr o'r cartrefi sydd ar gael sydd eisoes wedi'u haddasu a bod angen asesiadau dilynol i wirio pa mor briodol a safonol yw'r gwaith a wnaed.

Clywodd y Pwyllgor hefyd, mewn rhai rhannau o Gymru, fod awdurdodau lleol yn cynorthwyo pobl sydd angen addasiadau i'w cartrefi i ddod o hyd i adeiladwyr, tra mewn ardaloedd eraill roedd y cyfrifoldeb ar bobl i ddod o hyd i ddyfynbrisiau am waith eu hunain.

Mae'r Pwyllgor yn awgrymu y dylid cael un pwynt mynediad i'r broses addasiadau, beth bynnag yw oed person neu os ydynt yn berchen ar eu cartref neu yn rhentu.

Mae'r pwyllgor hefyd am i'r prawf modd ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl gael ei ailasesu am ei fod o'r farn ei fod yn rhy gymhleth ar hyn o bryd. Cred hefyd y dylai'r gwasanaeth Ymateb Cyflym Gofal a Thrwsio, sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl hyn sy'n berchen ar eu cartrefi, fod ar gael i bawb sydd ei angen.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae ar bobl angen addasiadau i'w cartrefi am wahanol resymau ac ar wahanol adegau yn eu bywydau.

“Oed yw'r rheswm ar gyfer rhai pobl, ond i eraill gallai fod o ganlyniad i ddamwain sy'n golygu bod angen cymorth arnynt i ddod yn annibynnol eto.

“Ymhob achos, gall gymryd amser i rywun addasu i fod yn llai abl, ac mae'n hanfodol bod y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt ar gael pan fyddant eu hangen.

“Clywodd y Pwyllgor fod y system bresennol yn rhy gymhleth ac anghyson ac nad yw'n gwneud digon i barchu dymuniadau ac anghenion y bobl fwyaf pwysig yn y broses, sef y bobl sydd angen addasiadau i'w cartrefi.

“Rydym o'r farn y byddai siarter cwsmeriaid, gwarant gan awdurdodau lleol o beth gall pobl ei ddisgwyl ac erbyn pryd, yn rhoi eglurder a hyder i bobl.

“I helpu i lywio awdurdodau lleol tuag at y nodau hynny, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn pennu isafswm o ran ansawdd safonau'r gwasanaeth y dylai pobl ei ddisgwyl.

“Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ail edrych ar brawf modd y Grant Cyfleusterau i’r Anabl am ein bod o'r farn ei fod yn rhy gymhleth ac yn annheg.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 23 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod lleol, gan weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol, yn llunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ei ymrwymiad i drigolion yr ardal mewn perthynas â gwasanaethau addasu;

  • Dylai Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol a darparwyr tai cymdeithasol, nodi beth mae’n credu yw’r safonau gofynnol priodol ar gyfer darparu gwahanol fathau o wasanaethau addasu, gan gynnwys targedau ar gyfer amseroedd cyflawni a dylai sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cyrraedd y safon honno;

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod prosesau yn cael eu rhoi ar waith, fel model o arfer da, mewn awdurdodau lleol i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau yn y tymor hirach, gan gynnwys y modd y caiff y gwaith ei wneud, a’i ansawdd; a,

  • Dylai Llywodraeth Cymru wneud cofrestrau tai hygyrch yn ofyniad statudol.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i addasiadau yn y cartref