Dylid cynnwys proses apelio annibynnol yn y Bil Sgorio Hylendid Bwyd, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 04/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dylid cynnwys proses apelio annibynnol yn y Bil Sgorio Hylendid Bwyd, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

4 Hydref 2012

Dylai proses apelio annibynnol fod yn rhan o'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Byddai'r Bil yn gosod gofyniad statudol ar fusnesau yng Nghymru i arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg. Ar hyn o bryd, mae arddangos y wybodaeth yn benderfyniad gwirfoddol, er bod yr holl sgoriau ar gael ar y wefan (www.food.gov.uk/ratings).

Cytunodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol â phrif egwyddorion cyfraith arfaethedig Llywodraeth Cymru yn ei adroddiad Cyfnod 1, ond mae o'r farn y byddai cael proses annibynnol ar gyfer apelio yn erbyn sgoriau yn fwy cadarn a thryloyw ac yn rhoi hyder i fusnesau a'r cyhoedd.

Roedd y Pwyllgor wedi'i ddarbwyllo hefyd ynghylch rhinweddau cyhoeddi adroddiadau archwilio yn llawn, ac roedd yn ddiolchgar am yr arwydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'n ystyried cyhoeddi adroddiadau archwilio a'i gwneud yn ofynnol bod busnesau'n rhoi linc ar eu gwefan i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r Pwyllgor o'r farn y bydd y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn ateb ei ddiben.

"Ond byddai cynnwys proses apelio annibynnol dryloyw yn rhoi hyder i fusnesau yn y sector gwasanaethau bwyd a'r cyhoedd.

"Croesawn ymrwymiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi ystyriaeth bellach i'r argymhelliad hwn."

Y cam nesaf fydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil a phleidleisio arno. Bwriedir i'r ddadl gael ei chynnal ar 16 Hydref 2012.