Dysgwr y Flwyddyn yn rhoi ei sgiliau Cymraeg ar waith yn y Senedd.
9 Medi 2011
Mae merch o Benarth a enillodd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn barod i roi ei sgiliau Cymraeg ar waith yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enillodd Kay Holder y wobr nodedig hon yn Eisteddfod Wrecsam eleni, dair blynedd yn unig ar ôl penderfynu dysgu Cymraeg.
Mae Kay hefyd yn siarad Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg a Rwsieg, a phenderfynodd ddysgu Cymraeg yn Eisteddfod Caerdydd yn 2008, wedi iddi fynd yno i hyrwyddo ffordd fegan o fyw.
“Roedd yn gymaint o anrhydedd ennill Dysgwr y Flwyddyn eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael defnyddio’r Gymraeg i groesawu ac i gynorthwyo ymwelwyr â’r Senedd,” meddai Kay.