Eich Cynulliad yn yr Eisteddfod

Cyhoeddwyd 02/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/08/2019

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o noddi Pebyll y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019. 

Drwy gydol yr wythnos, bydd pobl yn gallu ymweld â'n stondin ym Mhabell y Cymdeithasau i ddysgu am y gwahanol ffyrdd mae modd cyfrannu at waith y Cynulliad. 

Hefyd, rydym yn gweithio gyda partneriaid i gyflwyno pum sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau a fydd yn trafod themâu sy'n cynnwys addysgu hanes Cymru, nodi 20 mlynedd o Ddatganoli, pwerau cyllidol Cymru, menywod a datganoli, a sut i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan ddefnyddio plastigau untro.


Dydd Llun 5 Awst 11:30 

Cymdeithasau 2 


Deall ein hanes – Addysgu hanes a diwylliant Cymru 

Partner: Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 


Sut allwn sicrhau bod plant Cymru yn deall hanes eu cymunedau a’u gwlad?  Ymunwch â thrafodaeth Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cymru a fydd yn gofyn a fydd cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau’r canlyniadau sydd eu hangen i gyflawni’r amcan hwn.

O dan cadeiryddiaeth Delyth Jewell AC, Aelod Cynulliad dros De Ddwyrain Cymru ac Aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, bu'r panel yn cynnwys:
  • Yr Athro Huw Pryce, Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor;
  • Elin Tomos, Hanesydd Merched Chwarel; 
  • Ifan Jones, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Ynys Môn; 
  • Ifan Price, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Dwyfor Meirionydd; a 
  • Leona Huey, PhD Prifysgol Bangor.


Dydd Mawrth 6 Awst 11:00 

Cymdeithasau 1 


Dyfodol cyllidol Cymru – cau’r bwlch cyllidol

Partner: Canolfan Llywodraethiant Cymru


Guto Ifan a Cian Sion, tîm dadansoddi cyllidol Cymru o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fydd yn cyflwyno’r dadansoddiad diweddaraf o holl wariant a refeniw'r Llywodraeth yng Nghymru. 

Bydd y cyflwyniad a’r drafodaeth yn canolbwyntio ar y ffordd y mae llymder wedi effeithio ar wariant Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol; effaith datganoli trethi; a’r rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd nesaf. 

Byddant yn trafod beth mae’r ffigyrau a’r rhagolygon diweddaraf yn ei ddatgelu am berfformiad economi Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac yn gofyn sut y mae cau’r bwlch cyllidol rhwng gwariant a refeniw.


Dydd Mercher 7 Awst 11:30 

Cymdeithasau 2  


Cymru a datganoli: edrych yn ôl ac edrych ymlaen 

Partner: Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth


A hithau bellach yn 20 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol bydd y sesiwn banel hon yn edrych yn ôl ar hynt gwleidyddiaeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn o ddatganoli gwleidyddol. A grëwyd gwleidyddiaeth fwy cynhwysol a chyfranogol? Pa newidiadau pwysig a welwyd yn y pleidiau gwleidyddol? Sut mae cymdeithas sifil wedi ymateb i ddatganoli? Beth yw’r dyfarniad ar bolisïau cyhoeddus  Llywodraeth Cymru? A beth y gellir ei ddisgwyl wrth i broses Brexit rygnu yn ei flaen?

Mae’r panel yn cynnwys cyn-fyfyrwyr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth:
  • Sara Gibson, BBC Cymru (Cadeirydd); 
  • Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru; 
  • Dafydd Trystan, Coleg Cymraeg Cenedlaethol; 
  • Owain Clarke, BBC Cymru; a 
  • Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth.


Dydd Iau 08 Awst 11:00  

Cymdeithasau 1


Menywod a datganoli yng Nghymru

Partner: Archif Menywod Cymru  


Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i gael yr un nifer o fenywod a dynion yn cynrychioli’r cyhoedd. Ond, beth oedd rôl menywod yn yr ymgyrch i sefydlu datganoli a’r Senedd?  

Wrth i ni nodi ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, bydd Elliw Gwawr (Newyddiadurwraig Gwleidyddol y BBC) yn cadeirio sgwrs unigryw gydag Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Catrin Stevens (Cadeirydd Archif Menywod Cymru) a Sian Powell (Prif Weithredwr Golwg) ynghylch dylanwad menywod ar y daith tuag at ddatganoli a dyfodol y fenter hon.


Dydd Gwener 09 Awst 11:30 

Cymdeithasau 2  


Senedd Ieuenctid Cymru – Beth i’w wneud gyda’n gwastraff? 

Partner: Senedd Ieuenctid Cymru  


Fel rhan o’u gwaith ymchwil mewn i sbwriel a gwastraff plastig, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â’u trafodaeth ar sut y gall unigolion, cymunedau a Chymru fel cenedl oresgyn y problemau a achosir gan blasting untro. Dyma drafodaeth agored i'r rhai ar y Maes i gyfrannu a chodi cwestiynau ar waith Senedd Ieuenctid Cymru.  

Bydd Talulah Thomas, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros De Clwyd yn cadeirio, gyda panelwyr yn cynnwys:  
  • Brengain Glyn Williams, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Arfon, a Aelod o’r Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig; 
  • Llyr Gruffydd AC, Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Gogledd Cymru, a Aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig; a  
  • Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor.
  • Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.