Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 04/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau yn y Cynulliad CenedlaetholCynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf dau o bwyllgorau newydd y Cynulliad heddiw.  Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar gynigion cyllideb y Cynulliad a gwybodaeth ariannol mewn perthynas â mesurau arfaethedig y Cynulliad.  Etholwyd Alun Cairns AC yn Gadeirydd y Pwyllgor.                 Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod deisebau a gyflwynir i’r Cynulliad o dan ei Reolau Sefydlog newydd.  Am y tro cyntaf, bydd y cyhoedd nid yn unig yn gallu deisebu’r Cynulliad Cenedlaethol a gofyn am weithredu yn y meysydd polisi hynny y mae’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt, ond bydd gofyn i’r Cynulliad weithredu ar y ddeiseb, os ydyw o fewn pwerau’r Cynulliad i wneud hynny.            Etholwyd Val Lloyd AC yn Gadeirydd y Pwyllgor.  Dywedodd: "Rwy’n falch o gael fy ethol yn gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.  Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn o ran democratiaeth yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo diddordeb y cyhoedd ym mhroses y Cynulliad.”