Ffermwyr llaeth yn suro dros brisiau – angen mwy o hyrwyddo a diogelu yn ôl adroddiad newydd
30 Tachwedd 2009
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Hyrwyddwr annibynnol y Diwydiant Llaeth yng Nghymru i hyrwyddo a chynrychioli buddiannau’r diwydiant, yn ôl adroddiad newydd gan Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dywed yr adroddiad hefyd bod angen Ombwdsmon y DU i helpu i ddiogelu’r diwydiant ffermio llaeth yng Nghymru, ac mae’n galw ar gyrff cyhoeddus i gynyddu’r gyfran o gynnyrch llaeth maent yn ei brynu’n lleol.
Canfu’r ymchwiliad, a gynhaliwyd gan yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig nad oedd ffermwyr yn cael chwarae teg o ran y pris a dalwyd gan fânwerthwyr am y llaeth o gymharu â’r pris a godir gan y mânwerthwyr ar ddefnyddwyr, a bod angen cymryd camau i fynd i’r afael â’r broblem hon os byddai dyfodol sicr i’r diwydiant yng Nghymru.
Gwelodd y pwyllgor fod y nifer o gynhyrchwyr llaeth yng Nghymru wedi gostwng o draean rhwng 2003 a 2008 o 2,845 i 2,149 ac ymdrecha ei gynigion yn yr adroddiad i atal y dirywiad hwn.
"Dywedodd Alun Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: Gwelwn ddirywiad dychrynllyd yn ein diwydiant llaeth am resymau amrywiol ond mae’n ymddangos mai’r prif reswm yw’r gwahaniaeth mewn taliadau i ffermwyr am eu cynnyrch o gymharu â’r prisiau a godir gan y mânwerthwyr.”
Anogwn Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i sefydlu Ombwdsmon y DU i ddiogelu buddiannau cynhyrchwyr. Rydym o’r farn hefyd bod rhagor y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ei hunan drwy sefydlu Hyrwyddwr annibynnol y diwydiant llaeth yng Nghymru a thrwy annog cefnogaeth drwy gaffael cyhoeddus.”
Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad hefyd yn cynnwys nodi’r angen am ragor o fuddsoddi i wella’r seilwaith er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn y maes. A galwai am strategaeth newydd i sicrhau hyfforddiant priodol fel bod nifer digonol o bobl ifanc gymwysedig yn cael eu denu i’r sector bob blwyddyn, a gwaith i annog ffermwyr i ganolbwyntio mwy ar gynhyrchu’r cynnyrch gorau sy’n ychwanegu gwerth yn hytrach na nwyddau masgynhyrchu.
"Yr hyn yr hoffem ei weld yw Llywodraeth Cymru’n creu galw am gynnyrch llaeth safonol o Gymru. Clywsom am yr egni sydd wedi’i roi i hybu cig oen a chig eidion o Gymru a hoffem weld yr un ymdrechion yn cael eu gwneud dros gaws o Gymru. Hefyd hoffem pe bai cynllun amaeth-amgylcheddol newydd Llywodraeth Cymru, Glastir yn dod yn fwy hygyrch a deniadol i’n ffermwyr llaeth,” meddai Mr Davies.
Clywodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan undebau ffermwyr, cynhyrchwyr llaeth, hyrwyddwyr ac Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig dros Lywodraeth Cymru.
Yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig