“Gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn dod â heriau sylweddol i Gymru” - Pwyllgor Brexit y Cynulliad yn ymateb ar ôl cwrdd â Michael Gove AS

Cyhoeddwyd 24/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2019

Ar brynhawn dydd Iau, 24 Hydref, bu un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn cwrdd â Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, Michael Gove, i fynnu diweddariad ar baratoadau Llywodraeth y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd a goblygiadau hynny i Gymru.

Mae'r cyfarfod gyda'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaethau Ychwanegol yn rhan o waith parhaus y pwyllgor hwnnw i graffu a gwarchod buddiannau Cymru yn rhan o'r broses a'r paratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod rhai o oblygiadau ymarferol Brexit gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, Michael Gove. Yn benodol roedd yn ddefnyddiol er mwyn trafod materion yn cynnwys trefniadau cydsyniad ar gyfer Bil y Cytundeb Ymadael; effaith Brexit ar borthladdoedd Cymru, a pherthnasau masnachu yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n sicr y bydd gadael heb gytundeb yn dod â heriau sylweddol i Gymru, yn anad dim o ran anawsterau i sectorau allweddol ein heconomi gan gynnwys bwyd, ffermio a gweithgynhyrchu.

"P'un a fydd cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gadarnhau dros yr wythnos nesaf neu beidio, byddwn ni'n parhau i edrych ar sut mae sectorau allweddol yng Nghymru yn paratoi ar gyfer senarios amrywiol Brexit. Wrth wneud hynny rydym yn gobeithio cael ymgysylltiad ystyriol parhaus â Llywodraeth y DU."

 

Mae modd gwylio'r cyfarfod ar Senedd TV