Gallai fferyllfeydd cymunedol wella gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol
17 Mai 2012
Gellir atgyfnerthu a gwella gwasanaethau iechyd ledled Cymru o ganlyniad i fwy o gyfraniad gan fferyllfeydd cymunedol, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Canfu ymchwiliad gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod fferyllfeydd mewn sefyllfa i ddarparu ar gyfer cymunedau mewn ffordd a allai fod yn anodd i wasanaethau iechyd eraill. Fodd bynnag, daeth i’r casgliad bod angen gwneud rhagor o waith mewn fferyllfeydd cymunedol er mwyn sicrhau bod safon y rhwydwaith cyfan yn cyrraedd yr un safon â’r rhai gorau.
Mae’r Pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn arwain yn genedlaethol y gwaith o ddatblygu fferyllfeydd cymunedol yn y dyfodol. Gwnaeth hefyd awgrymu y byddai camau syml, fel gosod hysbysiad amlwg yn nodi’r ystod o wasanaethau sydd ar gael mewn unrhyw fferyllfa benodol, yn gwneud llawer i wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael.
Mae hefyd yn cynghori y dylai Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol weithredu er mwyn mynd i’r afael â materion cydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddyg teulu.
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Ein prif gasgliad yw cadarnhau’r buddion posibl y gallai ac y dylai fferyllfeydd cymunedol eu cyflwyno i wasanaethau iechyd yng Nghymru.”.
“Er bod y pwyllgor wedi codi pryderon ynghylch gallu presennol y rhwydwaith i ddarparu safon ac ystod o wasanaethau tebyg ym mhob rhan o’r wlad, rydym yn credu y gallai ymestyn y rôl a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol mewn gofal sylfaenol wella’r ffordd y bydd cleifion yn defnyddio gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae o ran sefydlu’r cyfeiriad cenedlaethol sydd ei angen i ddarparu safonau uchel cyson ledled Cymru, ac mae arweinyddiaeth broffesiynol hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod fferyllfeydd cymunedol yn gallu chwarae rhan lawnach yn y dyfodol.
“Roeddem yn falch o gael tystiolaeth bod camau eisoes yn cael eu cymryd i sicrhau bod hyn yn digwydd.”