Gallai pryderon am agenda cudd daflu amheuaeth ar y Mesur arfaethedig ynghylch llywodraeth leol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gallai pryderon am agenda cudd daflu amheuaeth ar y Mesur arfaethedig ynghylch llywodraeth leol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

7 Mawrth 2011 Mae adroddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dweud bod gwelliannau hwyr a sylweddol i Fesur arfaethedig gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at ‘ddrwgdybiaeth am gymhellion cudd’.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, er bod y gwelliannau hwyr i’r Mesur arfaethedig ynghylch llywodraeth leol wedi’u cyflwyno yn unol â gofynion trefniadol y Cynulliad, barnwyd mai nid dyma yw’r ffordd orau o wneud pethau ac nad yw’n caniatáu llawer o amser ar gyfer ymgymryd â gwaith ymgynghori a chraffu priodol.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud na chafwyd eglurhad digonol ynghylch pam roedd angen y pwerau ychwanegol a sut y byddent yn cael eu defnyddio’n ymarferol.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliannau a allai ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu cyfuno o dan rai amgylchiadau.

Dywedodd Janet Ryder AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r ffordd y cafodd y gwelliannau hyn eu cyflwyno, ar ôl i un o bwyllgorau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol cyhoeddi adroddiad Cyfnod 1, yn ein pryderu’n fawr iawn.

“Cyflwynwyd y gwelliannau heb iddynt gael eu trafod gan y Cynulliad ac heb i ni ymgynghori â sefydliadau allanol, ac ni chawsant eu hawgrymu gan unrhyw un o’r tystion.

“Gallai hyn godi amheuon ynghylch cymhellion Llywodraeth Cymru ac ynghylch y broses ddeddfu yng Nghymru.

“Er y gwnaeth y Gweinidog ein sicrhau nad dyna oedd ei fwriad, byddai’r gwelliannau hyn yn caniatáu i unrhyw Weinidog yn y dyfodol ail-lunio map llywodraeth leol Cymru, os oedd yn dymuno gwneud hynny.

“Mae hefyd yn codi gormod o amheuon ynghylch sut y byddant yn gweithio’n ymarferol, faint y bydd hynny’n ei gostio a pham na ellid defnyddio dulliau amgen, llai radical i gyflawni canlyniadau tebyg.


“Rydym am sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth o gwbl bod hon yn gynsail y dylid atal llywodraethau’r dyfodol rhag ei defnyddio, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.”

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn ystyried canllawiau Swyddfa’r Cabinet “Guide to Making Legislation” ac yn llunio a chyhoeddi ei chanllawiau ei hun ar y materion hyn fel mater o frys, gan cynnwys ei cyngor trefniadaol i adrannau ar gyflwyno gwelliannau ar ôl cyflwyno Mesur am y tro cyntaf.

  • y dylai’r Llywodraeth ystyried a fyddai disodli’r darpariaethau newydd â darpariaethau a fyddai’n rhoi’r pwer iddi orfodi cydweithio yn lle hynny yn ffordd well o gyflawni ei hamcan cyffredinol o wella’r gwasanaethau a ddarperir.

  • bod Pwyllgor Busnes y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried a oes angen canllawiau mwy eglur i Aelodau ynghylch a yw gwelliannau’n dod o fewn cwmpas Mesur a’r egwyddorion cyffredinol a gytunwyd yng Nghyfnod 1.