Galw am i sgiliau bywyd fod yn rhan gyson o wersi yn ysgolion Cymru

Cyhoeddwyd 22/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2019


  • Senedd Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad mawr cyntaf
  • Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at anghysondeb yn y ffordd y mae sgiliau bywyd yn cael eu dysgu yng Nghymru
  • Cafwyd barn dros 2,500 o bobl ifanc

Dylai sgiliau bywyd fod yn rhan o addysg plant yng Nghymru yn ôl Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn y darn mawr cyntaf o waith gan y corff sy'n cynrychioli barn pobl ifanc yng Nghymru, mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi darganfod anghysondebau mawr yn y ffordd y mae sgiliau bywyd yn cael eu dysgu ar hyn o bryd. Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd eu bod yn cael gwersi unwaith y flwyddyn os nad llai.

Bydd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AC, yn ymdrin ag argymhellion yr adroddiad yn ystod sesiwn lawn o Senedd Ieuenctid Cymru yn y Senedd ddydd Gwener, 25 Hydref.

Gallai sgiliau bywyd gynnwys hyfforddiant cymorth cyntaf, llythrennedd ariannol, amrywiaeth neu iechyd meddwl a lles, ymhlith pynciau eraill.

Clywodd yr Aelodau fod y sesiynau hyn yn aml yn cael eu trin fel gwersi rhydd, heb lawer o bwyslais ar gynnal strwythur i'r gwersi a heb lawer o ysgogiad ar ran athrawon. Yn aml, nid yw'r pwnc yn cael ei drin fel blaenoriaeth ac mae diffyg hyfforddiant a hyder ymhlith athrawon yn golygu nad yw'r gwersi'n cael eu cyflwyno'n effeithiol.  

O'r dros 2,500 o bobl ifanc a gymerodd ran yn yr arolwg cenedlaethol, mae 72 y cant am weld gwersi rheolaidd bob pythefnos ar sgiliau a materion a fyddai'n eu helpu i baratoi ar gyfer bod yn oedolion.

 

"Allwn ni ddim goroesi fel oedolion nac yn unrhyw ran o'n bywydau os byddwn ni'n gadael yr ysgol fel robotiaid A* heb wybod dim am y byd go iawn. Dyma'r system addysg rydyn ni'n mynd drwyddi, dyma'r system addysg y bydd ein brodyr a'n chwiorydd a'n plant yn mynd drwyddi. Rydyn ni am iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n gallu gweithredu fel oedolion cynhyrchiol; dydyn ni ddim am i neb deimlo bod eu gwerth yn seiliedig ar ganlyniadau eu harholiadau. Rydyn ni'n werth mwy na hynny." 

- Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

 

Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn credu mai pobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol a ddylai benderfynu pa sgiliau bywyd sy'n cael eu dysgu. Dylai fod cydbwysedd hefyd rhwng sgiliau bywyd a dysgu pynciau mwy traddodiadol ar gyfer canlyniadau arholiadau a chymwysterau.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru am weld cydlynydd sgiliau bywyd ym mhob ysgol yng Nghymru a chyrsiau yn cael eu cyflwyno gan athrawon sydd wedi cael hyfforddiant arbennig ac arbenigwyr allanol hefyd.

Daeth yr Aelodau i'r casgliad y bydd angen buddsoddiad i sicrhau bod gan athrawon yr hyfforddiant cywir i sicrhau eu bod yn hyderus wrth roi gwersi sgiliau bywyd.

"[Mae'r adroddiad hwn yn] dangos sut mae democratiaeth yn cynyddu yng Nghymru ac yn dangos bod gan bobl ifanc lais.  Mae'n dangos ymroddiad ac ymrwymiad Senedd Ieuenctid Cymru i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc. Mae'n dangos mai pobl ifanc sy'n gwybod beth sydd orau i bobl ifanc a bod y gallu gennym ni i gael effaith." - Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gwneud 13 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Cyflwyno Manyleb Sgiliau Bywyd cyson ledled y wlad, sy'n cynnwys yr holl sgiliau bywyd craidd wedi'u mapio ar draws y cyfnodau allweddol priodol ac yn ystyried unrhyw anghenion dysgu.
  • Dylid penodi cydgysylltydd sgiliau bywyd ym mhob ysgol; Byddai'r cydgysylltydd yn gyfrifol am fapio'r sgiliau bywyd craidd ar draws cwricwlwm yr ysgol, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael yr un profiadau, a hynny'n unol â'r Fanyleb Sgiliau Bywyd.
  • Dylai pobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol gytuno ar y sgiliau bywyd craidd yn y fanyleb - ni ddylent ganolbwyntio dim ond ar ddysgu pobl ifanc sut i fodoli, ond sut i fyw bywydau llawn ac iach.

Mi fydd cyfarfod nesaf y Senedd Ieuenctid yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 25 Hydref yn y Senedd yng Nghaerdydd. Bydd y sesiwn yn dechrau gydag araith gan Weinidog Addysg Cymru a hynny am 15.00.

Bydd y trafodion yn cael eu ffrydio'n fyw ar www.senedd.tv ac ar sianel Twitter Senedd Ieuenctid Cymru.

Adroddiad Cymraeg y gellir ei lawrlwytho oddi yma: http://bit.ly/sgiliau_bywyd

Adroddiad Saesneg y gellir ei lawrlwytho oddi yma: http://bit.ly/life_skills_eng

 

Rhaglen ddigwyddiadau:

Dydd Mawrth, 22 Hydref – Cyhoeddi adroddiad sgiliau bywyd yn y cwricwlwm

Dydd Gwener, 25 Hydref - Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg, i ymateb i'r adroddiad yn sesiwn lawn Senedd Ieuenctid Cymru yn y Senedd o 15:00.

Bydd ail ran y cyfarfod yn gyfle i 10 Aelod Senedd Ieuenctid Cymru wneud datganiadau 90 eiliad ar faterion sy'n bwysig iddynt.

Dydd Sadwrn, 26 Hydref – Senedd Ieuenctid Cymru i ddechrau ar ei gwaith yn trafod y ddwy brif flaenoriaeth sy'n weddill ganddi – cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc, a sbwriel a gwastraff plastig.