Galw am sefydlu corff radio cymunedol i Gymru a mwy o gefnogaeth gan y BBC a gorsafoedd masnachol

Cyhoeddwyd 29/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2019

Dylai corff radio cymunedol gael ei sefydlu i ddarparu cymorth ymarferol ac effeithiol i rwydwaith gorsafoedd radio cymunedol Cymru, meddai on o Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, hefyd yn argymell datblygu perthynas agosach â'r BBC a gorsafoedd radio masnachol i rannu gwybodaeth, adnoddau a chymorth i ddatblygu talent.

Cyflwynwyd radio cymunedol yn sgil deddfwriaeth, er mwyn creu haen newydd o ddarlledu radio yn y DU, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu â'r gymuned. Ar hyn o bryd mae un ar ddeg o orsafoedd radio cymunedol yng Nghymru. Mae deg gorsaf, sef Calon FM, Tudno FM, BRfm, Radio Tircoed, Radio Glan Clwyd, Môn FM, Radio Cardiff, Radio Rhondda, Bro Radio a GTFM eisoes ar yr awyr gyda Radio Aber yn bwriadu dechrau darlledu yn fuan.

Mae adroddiad byr y Pwyllgor ar radio cymunedol yng Nghymru yn cynnwys wyth argymhelliad ac fe'i cyhoeddir yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yn ystod symposiwm radio cymunedol a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2019 yn Yr Atriwm yng Nghaerdydd.

Yn y symposiwm, daeth cynrychiolwyr o'r gorsafoedd cymunedol, academyddion, radio masnachol, y BBC ac aelodau'r Pwyllgor ynghyd i drafod materion amrywiol yn cynnwys sut y gallai gorsafoedd gydweithio (o fewn y sector radio cymunedol a chyda radio masnachol/ y BBC) a ffyrdd o ddatrys rhai problemau cyffredin.

Yr argymhelliad cyntaf a gyhoeddir yn yr adroddiad yw y dylai Llywodraeth Cymru ariannu corff radio cymunedol i Gymru a fydd yn cynrychioli'r gorsafoedd, yn cynnig cymorth ymarferol ac yn ddolen gyswllt er mwyn rannu gwybodaeth rhwng y gorsafoedd. Ymhlith y cymorth ymarferol fydd cyflawni tasgau cyffredin fel adnoddau dynol, marchnata neu gyflwyno cais am grantiau.

Dylai'r corff hefyd helpu i ffurfio cysylltiadau rhwng gorsafoedd cymunedol a radio masnachol a'r BBC, er mwyn rhoi cyfle i wirfoddolwyr ennill profiad a datblygu sgiliau ledled Cymru.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod radio cymunedol yn cael mynediad i allbwn Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol y BBC a bod y gorfforaeth yn rhoi'r cynnig cyntaf i orsafoedd brynu offer nad yw'r BBC ei hangen mwyach am bris ffafriol.  

Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu;

"Yn ystod ein gwaith yn edrych ar orsafoedd radio cymunedol yng Nghymru, fe wnaethom ddysgu pa mor fuddiol yw'r gorsafoedd yma i'w cymunedau, fel dolen gymunedol a darparwr newyddion hyperleol. Maent hefyd yn cynnig cyfle i bobl ennill hyfforddiant a phrofiad gwerthfawr ym myd radio, p'un a ydyn nhw'n dymuno dilyn gyrfa neu er mwyn dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd.

"Yn fuan iawn yn ystod y symposiwm, fe welsom ein hunain pa mor werthfawr oedd y cyfle i rwydweithio pan lwyddodd cynrychiolwyr o un orsaf i helpu gorsaf arall gyda chyngor ar sut i ddatrys problem dechnegol hirdymor.  Fe wnaeth hyn atgyfnerthu ein barn bod yn rhaid creu cyfleoedd i orsafoedd radio gydweithio drwy rannu gwybodaeth a helpu ei gilydd. Byddai corff radio cymunedol, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cydlynu'r rhwydwaith hwn ac yn darparu cymorth ymarferol y mae mawr ei angen ar gyfer datblygu rolau ar yr awyr a swyddi y tu hwnt i'r stiwdio. 

"Rydym hefyd o'r farn y byddai'r sector yn elwa'n fawr o gydweithio'n agosach â'r BBC, ac y byddai rhannu mynediad at wasanaeth adrodd democratiaeth leol y BBC yn galluogi radio cymunedol i ymdrin yn effeithiol â thrafodion eu hawdurdod lleol ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w cymunedau fel rhan o wasanaeth newyddion hyperleol."

Mae'r adroddiad yn rhestru wyth argymhelliad, gan gynnwys:

- Dylai Llywodraeth Cymru ariannu corff radio cymunedol i Gymru. Byddai'r corff yn cynnig cymorth ymarferol i orsafoedd, yn cyflawni rôl gynrychioliadol ac yn cydgysylltu cydweithrediad a rhannu gwybodaeth ar draws gorsafoedd. Gallai cymorth ymarferol gynnwys cyflawni tasgau cyffredin ar gyfer gorsafoedd fel adnoddau dynol, marchnata neu ysgrifennu grantiau. Dylai'r corff hefyd helpu i greu cysylltiadau rhwng gorsafoedd cymunedol a chyrff eraill sydd â diddordeb, fel radio masnachol a'r BBC.

- Dylai'r BBC ymwneud yn weithredol â radio cymunedol er mwyn rhoi mynediad i'r allbwn a hyrwyddo'r defnydd o'u Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.

- Dylai'r BBC a radio masnachol weithio gyda radio cymunedol i ddatblygu llwybr i wirfoddolwyr radio cymunedol gael profiad yn eu gorsafoedd radio fel ffordd o ddatblygu talent ledled Cymru.

- Dylai'r BBC gynnig cyfraddau ffafriol i orsafoedd radio cymunedol a rhoi'r cynnig cyntaf iddynt wrth werthu offer radio nad ydynt yn ei ddefnyddio mwyach.

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.