Galwadau am fargen deg i ffermwyr Cymru wrth ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Cyhoeddwyd 31/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Galwadau am fargen deg i ffermwyr Cymru wrth ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin

31 Ionawr 2012

Dylai ffermwyr Cymru gael bargen deg a newid esmwyth i drefniadau ariannu newydd o dan ddiwygiadau arfaethedig i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC), yn ôl Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae wedi ysgrifennu dau lythyr, un at Lywodraeth Cymru ac un arall at Senedd Ewrop, yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer cymorth i’r sector amaethyddol yng Nghymru ac yn nodi ym mhle y dylid gwneud diwygiadau i’r cynigion.

Ymhlith yr argymhellion a gafodd eu cynnwys yn y llythyrau, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio cael eglurhad gan y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch a fydd gan weinyddiaethau rhanbarthol y pwer i ddatblygu taliadau is-ranbarthol.

Yn ei lythyr at Senedd Ewrop, mae’r Pwyllgor yn dadlau dros amserlen saith mlynedd ar gyfer y polisi newydd, yn hytrach na’r cynnig presennol o bum mlynedd. Mae hefyd am gael sicrwydd ynghylch hyblygrwydd cynigion ar gyfer ffermydd bach a newydd-ddyfodiaid.

Mae’r llythyrau yn ganlyniad i ymchwiliad gan grwp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ac a gadeiriwyd gan Vaughan Gething AC.

“O’r cychwyn, cynlluniwyd yr ymchwiliad hwn i sefydlu blaenoriaethau Cymru wrth ddechrau aildrafod y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

“Casglwyd tystiolaeth gan randdeiliaid ym mhob sector o’r economi wledig yng Nghymru. Rydym wedi defnyddio’r dystiolaeth a gyflwynwyd i ni er mwyn canfod pum ardal allweddol lle’r ydym am gael eglurder a sicrwydd er mwyn sicrhau bargen deg i’r byd amaeth a’r cymunedau gwledig yng Nghymru.

“Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau’r pwerau a’r dylanwad a fydd ganddi yn y DU ac ar draws Ewrop, a’u defnyddio i gael y fargen orau i Gymru o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin newydd. Mae hyn yn cynnwys llunio canlyniadau polisi a’r trefniadau ymarferol pwysig iawn ar gyfer rhoi trefniadau ariannu ar waith a’u rheoli.


“Yn ddifrifol, rydym am weld ffermwyr Cymru’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod yr amseroedd anodd hyn a bod unrhyw newidiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn deg ac yn cael eu cyflwyno’n ofalus.

“Dim ond cam cyntaf ein hymchwiliad yw hwn ac mae’n amlinellu ein barn gychwynnol. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd drwy gydol y broses o drafod.”