Goleuo Cannwyll - y Llywydd yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol i roi terfyn ar Drais yn erbyn Menywod
25 Tachwedd 2013
Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn nodi Diwrnod Rhyngwladol i Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod drwy oleuo cannwyll mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf ar 25 Tachwedd.
Trefnir y digwyddiad yn flynyddol gan BAWSO, sef elusen o Gymru sy’n cynnig gwasanaethau arbenigol i bobl dduon a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yr effeithir arnynt gan drais domestig a mathau eraill o gam-drin.
Eleni, trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Chymorth i Fenywod Cymru, Cymorth i Fenywod Caerdydd, Llamau (elusen sy’n rhoi cymorth i fenywod sy’n cael eu cam-drin yn eu cartrefi) a Cymru Ddiogelach.
Dywedodd y Llywydd: “Mae’r ffaith bod cynifer o fenywod yn dal i ddioddef cam-drin domestig yn drychineb y bydd yn rhaid inni fynd i’r afael â hi.
“Mae llawer o ddioddefwyr yn dioddef yn dawel ar eu pen eu hunain, ac yn methu â dod o hyd i ffordd o dorri’r cylch o drais gan nad ydynt yn gwybod sut i ddod o hyd i gymorth.
“Drwy godi ymwybyddiaeth drwy’r Diwrnod Rhyngwladol i Roi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a chynnal y digwyddiad hwn, gobeithio y gallwn roi gobaith i fenywod drwy Gymru y gallant ddod yn rhydd o afael partneriaid sy’n eu cam-drin.”