Gosod sylfeini ar gyfer corff deddfu o fri yr 21ain Ganrif – y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi adroddiad blynyddol

Cyhoeddwyd 17/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gosod sylfeini ar gyfer corff deddfu o fri yr 21ain Ganrif – y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi adroddiad blynyddol

17 Gorffennaf 2012

Mae hi wedi bod yn flwyddyn bwysig i’r Cynulliad Cenedlaethol ers y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm y llynedd ar bwerau deddfu ehangach a’r etholiadau ym mis Mai 2011.

Yn ei Adroddiad Blynyddol, mae Comisiwn y Cynulliad yn amlinellu sut y bu’n sefydlu gwasanaethau sy’n ateb heriau newydd y Pedwerydd Cynulliad ac yn darparu gwasanaeth seneddol o fri.

Yn ei rhagair i’r adroddiad, mae’r Llywydd, Rosemary Butler AC yn amlinellu sut y mae annog pobl Cymru i gymryd mwy o ran yn y broses wleidyddol wedi bod yn rhan annatod o’r gwaith hwnnw.

Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Mae deall anghenion cymunedau ledled Cymru a chael mwy o bobl i gymryd rhan yn y gwaith a wnawn i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu dros Gymru yn ddau o fy amcanion strategol craidd fel Llywydd.”

“Mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau ffydd a brwdfrydedd pobl Cymru dros ddatganoli. Dyna pam rwyf wedi bod yn ymweld â gwahanol gymunedau, prosiectau, ysgolion a sioeau amaethyddol ar hyd a lled Cymru i glywed beth sydd ganddynt i’w ddweud.

“Rwyf hefyd wedi gwneud newidiadau arwyddocaol i’r ffordd rydym yn gwneud busnes yn y Senedd. Mae hyn wedi arwain at ragor o ddeddfwriaeth mainc gefn a dadlau sy’n adlewyrchu dyheadau cymunedau a grwpiau buddiant amrywiol ledled Cymru yn well.

“Hyd yn hyn, cyflwynwyd pedwar darn o ddeddfwriaeth a awgrymwyd gan Aelodau’r Cynulliad. Bydd tri ohonynt yn symud i’r cyfnod Bil, sydd eisoes yn cyfateb i’r un faint o Fesurau a basiwyd drwy gydol y Trydydd Cynulliad.

“Rydym hefyd wedi pasio ein Bil cyntaf ers inni gael ein pwerau deddfu ehangach, ac rydym yn parhau i ddarparu’r adnoddau angenrheidiol er mwyn i Aelodau allu parhau i graffu ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru.”

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn amlinellu sut mae Comisiwn y Cynulliad wedi addasu’r ffordd y mae’n darparu cyfleusterau a gwasanaethau er mwyn ateb heriau’r setliad cyfansoddiadol newydd.

Yn greiddiol i’r newidiadau hyn mae ymgais i sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad yr adnoddau cywir i gyflawni eu dyletswyddau o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, craffu ar ddeddfwriaeth a chynrychioli eu hetholwyr.

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad: “Mae’r flwyddyn gyntaf hon yn y Pedwerydd Cynulliad wedi bod yn flwyddyn arall o newid a thrawsnewid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda Llywydd a Dirprwy Lywydd newydd, 23 Aelod Cynulliad newydd ac, wrth gwrs, pwerau deddfu ehangach.”

“Gyda’r pwerau ehangach hyn, mae’r sefydliad wedi dod hyd yn oed yn fwy o ganolbwynt i fywyd dinesig a chyhoeddus Cymru, a chyda hynny daw’r cyfrifoldeb a’r pwysau o ddarparu gwasanaeth seneddol rhagorol sy’n rhoi’r adnoddau i bob un o’r 60 o Aelodau er mwyn cyflawni eu rolau i safon a fydd yn gwneud pobl Cymru yn falch o’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Credaf ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni’r nod hwnnw, diolch i gyfraniad yr holl staff sy’n gweithio yma yn y Cynulliad, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i wireddu uchelgeisiau’r Comisiwn yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.”

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru Adroddiad 2011-12