Gosod y Mesur Cynulliad Cyntaf i’w Gynnig gan Aelod.

Cyhoeddwyd 14/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gosod y Mesur Cynulliad Cyntaf i’w Gynnig gan Aelod.

Heddiw (Dydd Gwener, 14 Mawrth), bydd Jenny Randerson AC yn cyflwyno’r Mesur Cynulliad Cyntaf i’w gynnig gan Aelod nad yw’n aelod o’r Llywodraeth.. Ms Randerson ddaeth i’r brig mewn pleidlais gyfrinachol ymhlith ACau ym mis Mehefin 2007 a chytunodd y Cynulliad wedyn ar 19 Medi 2007 i ganiatáu iddi gyflwyno Mesur.  

Rhoddwyd chwe mis i Ms Randerson wedyn i baratoi’i Mesur, gan arwain at ei gyflwyno heddiw.

Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn gosod dyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i hybu bwyta iach mewn ysgolion yng Nghymru . Bydd gofyn hefyd i gyrff llywodraethu gynnwys bwyta iach yn eu hadroddiad blynyddol, a bydd rhaid i Weinidogion adrodd yn flynyddol ar hynt yr ymgyrch i sicrhau maeth mewn ysgolion ac ar y safonau sy’n gwella. Bydd y Mesur yn gosod hefyd ddyletswydd ar ysgolion ac awdurdodau addysg lleol i annog mwy o blant i fwyta prydau ysgol ac i sicrhau bod y canran uchaf posibl o’r rhai sydd i dderbyn prydau ysgol am ddim yn eu bwyta.

Darn o ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad yw Mesur. Mae’i effaith yn debyg i Ddeddf Seneddol. Caiff y Cynulliad gyflwyno Mesurau ar unrhyw ‘fater’ a restrir yn Atodlen 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sydd ar hyn o bryd yn cynnwys meysydd megis addysg a hyfforddi, iechyd a llywodraeth leol.

Dywedodd Jenny Randerson AC: “Rwyf wrth fy modd fod prydau iach i’n plant wedi dod un cam yn nes heddiw. Rwy’n credu bod rhieni’n gyffredinol yn derbyn y dylai’r bwyd a ddarperir i’w plant pan fyddan nhw yn yr ysgol fod yn iach, yn faethlon ac yn ddiogel.

“Rwyf wrth fy modd imi gael cyfle o dan bwerau newydd y Cynulliad i gyflwyno cyfres mor bwysig o gynigion.

“Rwy’n ffyddiog iawn y bydd hyn yn arwyddo cynnydd yn y modd y mae’r Cynulliad yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl’’

Ceir mwy o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol ym Mhecyn Gwybodaeth y Cynulliad Cenedlaethol i’r Cyfryngau: