Grwp Rapporteur Dyslecsia yn ymweld â chanolfannau addysg i gasglu tystiolaeth

Cyhoeddwyd 17/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Grwp Rapporteur Dyslecsia yn ymweld â chanolfannau addysg i gasglu tystiolaeth

Bydd y Grwp Rapporteur Dyslecsia, sy’n cynnwys aelodau o Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld ag ysgolion, colegau a sefydliadau sy’n arbenigo mewn delio â dyslecsia yng Ngogledd Cymru.  

Bydd y grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad (Alun Cairns, Jeff Cuthbert, Janet Ryder a Kirsty Williams) yn ymweld â Choleg Glannau Dyfrdwy,  British Dyslexics, Ysgol Bryn Coch, ysgol sy’n rhoi cymorth i blant â dyslecsia, i ddysgu rhagor am ffyrdd newydd ac arloesol o ddelio â dyslecsia. Cânt gyfle hefyd i weld cyflwyniad o Fast For Word, pecyn Technoleg Gwybodaeth sy’n helpu pobl â dyslecsia, yng Nghanolfan Daniel Owen.

Ym mis Awst, bu’r Aelodau yng Nghanolfan Cardiff Dore a chawsant dystiolaeth gan Brosiect Dylecsia Cymru, Cymdeithas Dyslecsia Prydain yng Nghymru, Rhaglen Raviv a Dyslexia Action Cymru yn ystod toriad yr haf ac ar ddechrau Tymor yr Hydref. Bydd y grwp yn cyflwyno’u hadroddiad a’u hargymhellion i’r Pwyllgor Menter a Dysgu yn ystod Wythnos Genedlaethol Dyslecsia o 5-10 Tachwedd . Bydd y Pwyllgor yn cael rhagor o dystiolaeth gan brif academyddion y DU.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter y Dysgu