Gwahardd plastigau untro yng Nghymru er mwyn taclo sbwriel a llygredd plastig

Cyhoeddwyd 05/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2020

Mae angen gweithredu ar frys i wahardd plastigau untro a gwella addysg a chyfleusterau ailgylchu er mwyn taclo sbwriel a gwastraff plastig yng Nghymru, yn ôl Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae'r adroddiad - Y Gorau o'n Gwastraff - ar gael yma

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno naill ai bolisi newydd, neu ddeddfwriaeth, i leihau’r defnydd o blastig naill ai cyn diwedd tymor y Senedd hon, neu'n gynnar yn y nesaf.

Mae argymhellion eraill yn galw am ddarparu rhagor o finiau ailgylchu o amgylch Cymru ac addysgu plant a phobl ifanc am beryglon llygredd a manteision ailgylchu a lleihau ein defnydd o blastig untro.

‘Mae’n bosibl y byddwn ni mewn sefyllfa lle bydd mwy o blastig yn y môr na physgod erbyn 2050. Nid yw hynny yn sefyllfa y gallwn ni adael i ddigwydd. Mae gennym ni’r gallu a’r potensial fel gwlad i wneud gwahaniaeth i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol.’ - Efan Fairclough, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae adroddiad diweddar gan y Ganolfan Cyfraith Amgylcheddol Ryngwladol yn denu sylw at y cysylltiad rhwng llygredd plastig a’r mater ehangach o’r newid yn yr hinsawdd:

‘Ar lefelau presennol, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr o gylch bywyd plastig yn bygwth gallu’r gymuned fyd-eang i gadw’r cynnydd mewn tymheredd o dan 1.5 C.’ (Mai 2019). 

‘Ar ddechrau ysgol uwchradd, mi ges i syniad o anferthedd y broblem gwastraff plastig; yn yr ysgol, adref, bobman ac mi allwn weld yr effeithiau dinistriol o effeithiau plastig ar yr amgylchedd.’- Ubayedhur Rahman, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

‘Rydw i wir o’r farn fod addysg yn hynod o bwysig a dyma’r unig ffordd y gallwn ysbrydoli y genhedlaeth ifanc i fod yn fwy eco-gyfeillgar.’ - Anwen Rodaway, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mewn arolwg o 560 o blant a phobl ifanc ledled Cymru, dywedodd 93 y cant mai eu rhieni neu eu gofalwyr oedd yn dylanwadu arnyn nhw fwyaf o ran yr angen i ailgylchu, tra mai dim ond 42 y cant oedd yn dweud mai ymgyrchwyr amgylcheddol blaenllaw fel Syr David Attenborough neu Greta Thunberg oedd y dylanwad mwyaf.

Er bod 90 y cant o'r rhai a arolygwyd yn ailgylchu poteli plastig ac 80 y cant yn ailgylchu caniau diodydd, roedd llai na hanner ohonynt yn ailgylchu eitemau plastig eraill fel hambyrddau pecynnu, potiau plastig, papur, cardfwrdd, gwastraff bwyd, gwydr a dillad.

‘Pan feddyliwch am bethau fel papur, cardfwrdd, tiniau a gwydr, maent oll yn hawdd i’w hailgylchu... mae’r ffaith nad yw’r rhain yn gyffredinol yn cael eu hailgylchu yn broblem eithaf sylweddol.’ - Aled Joseph, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn ystod yr ymgynghoriad, dysgodd yr Aelodau fod angen ystyried cynaliadwyedd mewn perthynas â’r eitemau rydym yn eu defnyddio bob dydd. Daeth yr Aelodau yn llawer mwy ymwybodol o effaith dillad ar lygredd plastig o ganlyniad i ficroplastigau o ffibrau synthetig yn cyrraedd y môr drwy’r broses olchi – deunydd sy’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn eitemau ffasiwn cyflym. Dyma un maes y mae angen codi mwy o ymwybyddiaeth ohoni yn eu barn nhw.

‘Rydym yn siarad am ailgylchu poteli plastig yn fwy na mathau eraill o blastig ac mae hynny yn cael dylanwad. Yn achos ailgylchu dillad, lle nad yw’r gyfradd mor uchel â photeli plastig, nid ydym yn sôn gymaint am yr angen i ailgylchu dillad.’ - Ffion-Haf Davies, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Yn yr adroddiad, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn nodi deg argymhelliad, yn cynnwys:

  • Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau sylweddol ar frys i roi diwedd ar gynhyrchu plastigau untro (gyda rhai eithriadau hanfodol), ac ystyried dulliau gweithredu fel gwahardd cynhyrchu plastigau untro, Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr, a/neu Gynllun Dychwelyd Ernes;

  • Galwn am fwy o bwyslais ar addysgu pobol ifanc ar draws Gymru am effeithiau negyddol sbwriel a gwastraff plastig, a sut gall bobl ifanc helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn; a,

  • Rhoi'r cyfleusterau sydd eu hangen ar bob sefydliad addysg fel bod modd ailgylchu ystod ehangach o ddeunyddiau, a lleihau’n sylweddol faint o blastig untro sy'n cael ei ddefnyddio. Gobeithiwn y byddai hyn hefyd yn golygu bod pobl ifanc yn creu arferion da yn gynnar. 

Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru a fydd yn eu hystyried ac yn ymateb iddynt.

Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli’r olaf o’r tri pwnc y gwnaeth y Senedd Ieuenctid Cymru ddewis fel blaenoriaethau yn ystod ei chyfarfod cyntaf ym mis Chwefror y llynedd. Dyma'r blaenoriaethau hynny: