Gwahodd plant deng oed i’r Senedd wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nodi ei ddengmlwyddiant

Cyhoeddwyd 20/04/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwahodd plant deng oed i’r Senedd wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nodi ei ddengmlwyddiant

A fyddwch chi’n dathlu eich penblwydd yn ddeg oed ar 12 Mai 2009?

Gwahoddir plant a aned ar 12 Mai 1999 i ddathlu eu pen-blwydd mewn steil yn y Senedd eleni.

Mae hyn am fod eu pen-blwydd yn ddeg oed ar yr un diwrnod ag y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi ei ddengmlwyddiant.

Mae’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn gwahodd deg person ifanc i ymuno ag ef ac Aelodau Cynulliad eraill mewn parti pen-blwydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

“Er ei bod yn briodol ein bod yn edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni yn ystod degawd cyntaf datganoli, mae’n bwysicach fyth ein bod yn edrych i’r dyfodol,” meddai’r Llywydd.

“Wrth gwrs, ein pobl ifanc yw’r dyfodol a dyna pam yr ydym am sicrhau eu bod yn rhan flaenllaw o’r digwyddiadau a gynhelir yn y Senedd ar 12 Mai.

“Ein thema ganolog eleni yw annog mwy o bobl i gyfrannu at y broses ddemocrataidd – wedi’r cyfan, dyna oedd prif nod datganoli.

“Wrth i ni nodi deng mlynedd o ddatganoli, a oes ffordd well o wneud hynny na thrwy gael pobl ifanc yng nghanol y dathliadau?”

Caiff deg o bobl ifanc, yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, eu gwahodd i barti pen-blwydd yn y Senedd a gynhelir ar 12 Mai am 6pm.

Fel rhan o’r wobr, bydd y bobl ifanc yn cael eu tywys ar daith o amgylch y Senedd, gan ddysgu mwy am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Felly, gwahoddir pobl ifanc a gafodd eu geni ar 12 Mai 1999 i anfon eu henwau a’u manylion cysylltu un ai i:   

Devolution10@wales.gsi.gov.uk

NEU

Datganoli10

Natalie Drury

Cysylltiadau Allanol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ty Hywel

Bae Caerdydd

CF99 1NA

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mai ac yna caiff enwau’r deg person ifanc lwcus eu tynnu o het a byddant yn cael gwahoddiad.

Mae’r parti pen-blwydd yn un o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir yn y Senedd ar 12 Mai i nodi’r deng mlwyddiant.

Mae’r digwyddiadau eraill yn cynnwys ffug senedd i bobl ifanc a derbyniad ar gyfer Aelodau presennol y Cynulliad a chyn Aelodau’r Cynulliad.