Gwahoddiad i bobl Cymru holi Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC

Cyhoeddwyd 07/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2016

​Dyma wahoddiad i bobl Cymru gyflwyno cwestiynau ar gyfer cyfarfod un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol â Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gwahodd cwestiynau drwy Twitter neu drwy e-bost ar gyfer y cyfarfod ar 2 Tachwedd yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Bydd y Pwyllgor yn ymdrin â meysydd sy’n cynnwys yr Adolygiad o Siarter y BBC a rôl ‘Cyfarwyddwr Gwledydd a’r Rhanbarthau’ a benodwyd yn ddiweddar.

Mae gan BBC Cymru gyllideb flynyddol o dros £150 miliwn ac mae’n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer Radio Wales, Radio Cymru, y teledu a gwasanaethau ar-lein.

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd gostyngiad yn y cynnwys Saesneg a gynhyrchir ar gyfer Cymru yn benodol.

"Mae’r BBC yn gonglfaen yn y cyfryngau y mae llawer o bobl yn eu defnyddio ac mae’n bosibl ei bod yn wynebu newidiadau gyda’r mwyaf radical o dan yr Adolygiad o’i Siarter," meddai Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Mewn rhai ffyrdd mae Cymru’n elwa’n fawr ar y BBC oherwydd ei phentref drama yn Noc y Rhath lle mae Sherlock, Doctor Who a Casualty yn cael eu ffilmio. Dyma gynyrchiadau o’r radd flaenaf sydd yn ddiamau yn ein rhoi ni ar y map.

"Ond, mewn ffyrdd eraill, mae diffyg rhaglenni a chynnwys sy’n benodol i Gymru, ac mae toriadau diweddar yn y gyllideb yn peri pryder mawr.

"Felly, byddwn yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol sut, yn ei farn ef, y bydd y BBC yng Nghymru yn edrych yn y dyfodol.

"Ond mae hyn hefyd yn gyfle i’r cyhoedd yng Nghymru ofyn eu cwestiynau eu hunain i bennaeth y BBC yn uniongyrchol, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud."

Bydd pobl yn gallu gwylio’r cyfarfod, naill ai o’r oriel gyhoeddus yn y Senedd, neu ar wefan fideo’r Cynulliad Cenedlaethol, www.senedd.tv.

Y dyddiad cau ar gyfer cwestiynau’r cyhoedd yw 21 Hydref.

Gall pobl gysylltu â’r Pwyllgor ar Twitter ar @SeneddDGCH, neu drwy’r e-bost ar SeneddDGCh@cynulliad.cymru.