Gwaith yn mynd rhagddo ar adeilad nodedig y Pierhead er mwyn ‘argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli’

Cyhoeddwyd 28/09/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwaith yn mynd rhagddo ar adeilad nodedig y Pierhead er mwyn ‘argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli’

28 Medi 2009

Mae gwaith wedi dechrau ar adeilad rhestredig Gradd Un y Pierhead ym Mae Caerdydd, a fydd yn cael ei addasu’n lleoliad unigryw ar gyfer digwyddiadau, cynadleddau ac ymweliadau â’r Cynulliad.

Mae’r adeilad nodedig wedi bod ar gau tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo, ac mae disgwyl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn newydd.

Bwriedir defnyddio’r adeilad i gyd-fynd â gwaith y Cynulliad, gan ddenu sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i gyfrannu at drafodaethau ac arddangosfeydd cyhoeddus, gyda’r nod o annog rhagor o bobl i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd.

Bydd yr adeilad hefyd yn agored i’r cyhoedd, gyda chyfle i ymwelwyr gael profiad rhyngweithiol sy’n seiliedig ar sain a synwyryddion. Yn sgil hynny, bydd cyfle i ddarganfod am hanes yr adeilad a’r newid a fu yn ei ddefnydd dros y blynyddoedd.

“Mae hwn yn brosiect o bwys sy’n rhan o raglen ddigwyddiadau’r Cynulliad i nodi 10 mlynedd o ddatganoli,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd.

“Bydd yn olrhain sut y bu Bae Caerdydd yn rhan ganolog o economi a hunaniaeth sifil Cymru ers bron i 200 mlynedd, o’i ddyddiau fel un o borthladdoedd mwyaf y byd yn ystod oes aur y diwydiant glo i’w statws heddiw fel canolfan y llywodraeth mewn Cymru ddatganoledig."